Plant i wynebu cyfyngiadau ar eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol

Cyfryngau cymdeithasol

Bydd plant yn wynebu cyfyngiadau ar eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol hyd yn oed os nad yw Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwaharddiad, yn ôl Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth y DU.

Mae Bridget Phillipson wedi dweud fod ganddi bryderon am y cynnwys y mae pobl dan 16 oed yn dod ar ei draws ar-lein. Mae hefyd yn poeni am faint o amser maen nhw’n ei dreulio’n edrych ar sgriniau.

Yn Nhŷ’r Cyffredin nos Lun, dywedodd y Llywodraeth y bydd yn cyflwyno "cyfyngiadau oedran neu gyfyngiadau ar nodweddion" ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer pobl dan 16 oed.

Daw'r ymrwymiad yn dilyn galwadau eang am waharddiad cyfryngau cymdeithasol tebyg i'r un sydd eisoes ar waith yn Awstralia.

Er bod addysg wedi ei ddatganoli mi fydd unrhyw gyfyngiadau yn effeithio ar blant a phobl ifanc Cymru. 

Roedd y Llywodraeth wedi dechrau ymgynghori ar fynediad pobl dan 16 oed at dechnoleg. Roedden nhw wedi awgrymu cyflwyno mesurau fel cyfyngiadau oedran ar gyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau eraill fel gwefannau gemau.

Ond doedden nhw heb wneud unrhyw ymrwymiadau pendant ar ba gamau fyddai’n cael eu cymryd tan ymyrraeth hwyr yn San Steffan i gael y Bil Lles Plant ac Ysgolion drwy’r Senedd yno.

Dywedodd Ms Phillipson wrth Times Radio: "Nid yw'n gwestiwn a ydyn ni’n cymryd camau i ddiogelu pobl ifanc, ond pa fath o gamau, a sut maen nhw’n edrych.

"Ac mae amrywiaeth o farnau, gan ymgyrchwyr a theuluoedd, sydd â safbwyntiau gwahanol ar sut i wneud hyn yn iawn."

Wrth siarad ar Sky News, ychwanegodd: "Fel pawb arall, rwy’n pryderu am yr hyn mae pobl ifanc yn ei weld ar-lein.

"Rwy’n pryderu am faint o amser mae pobl ifanc yn ei dreulio ar-lein. Rwy’n pryderu am rai o’r nodweddion sy’n gallu gwneud pobl yn gaeth a’r ffordd maen nhw’n dal pobl ifanc ac yn eu cadw yno. Felly, byddwn ni’n gweithredu ar hyn. 

"Ond os ydyn ni am weithredu, ac fe wnawn ni, mae angen i ni gael hyn yn iawn. Dwi ddim eisiau dod yn ôl yma mewn blwyddyn neu ddwy yn dweud ‘mewn gwirionedd, doedd yr hyn wnaethon ni gynnig ddim yn effeithiol ac mae angen i ni edrych ar hyn eto’.

"Mae angen i ni greu rhywbeth sy’n para dros amser, sy’n ennill ymddiriedaeth rhieni ac ymgyrchwyr, ac sy’n gweithio mewn gwirionedd."

'Buddugoliaeth fawr'

Daw'r ymrwymiad gan y Llywodraeth yn dilyn pwysau gan Dŷ’r Arglwyddi ar y mater, dan arweiniad y cyn-weinidog addysg Geidwadol, yr Arglwydd Nash.

Fe bleidleisiodd Aelodau Seneddol bedair gwaith i geisio gorfodi Tŷ'r Cyffredin i gyflwyno gwaharddiad llwyr.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Cysgodol, Laura Trott: "Dim ond 18 mis yn ôl roedd y Blaid Lafur yn dweud nad oedd gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol yn rhywbeth roedden nhw’n ei ystyried.

"Maen nhw bellach wedi ymrwymo o’r diwedd i gyflwyno cyfyngiadau ar gyfryngau cymdeithasol i rai dan 16 oed.

"Mae hyn yn fuddugoliaeth fawr ac yn foment allweddol i blant ar draws ein gwlad ar ôl misoedd o oedi ac addewidion gwag.

"Mae hyn diolch i ddewrder rhieni mewn profedigaeth a frwydrodd nid dros eu plant eu hunain ond dros blant pobl eraill."

Ymhlith yr ymgyrchwyr sy'n cefnogi gwaharddiad mae Esther Ghey. Cafodd ei merch 16 oed, Brianna, ei llofruddio gan ddau yn eu harddegau yn 2023.

Bythefnos yn ôl dywedodd Syr Keir Starmer wrth arweinwyr technoleg o X, Meta, TikTok a Google - sy’n berchen ar YouTube - fod angen newidiadau ar frys.

Fe wnaeth yr Arglwydd Nash ddisgrifio ymrwymiad y Llywodraeth fel "cam mawr ymlaen i ddiogelwch ein plant ar-lein".

"Byddwn i gyd yn troi ein sylw - gyda’n gilydd - at sicrhau bod hyn yn cael ei roi ar waith cyn gynted â phosib yn y ffordd orau i amddiffyn ein plant," meddai.

"Diolch i fy nghyd-aelodau yn yr Arglwyddi a bleidleisiodd bedair gwaith i sicrhau bod hyn wedi digwydd. Ond yn anad dim, hoffwn ddiolch i’r rhieni mewn profedigaeth yr wyf wedi ymgyrchu ochr yn ochr â nhw."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.