Cyhoeddi enwau'r Cymry fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd eleni
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau'r unigolion fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd eleni.
Bydd y sawl ar y rhestr yn cael eu anrhydeddu yn y Brifwyl yn Llantwd, Sir Benfro am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol.
Ymhlith y rhai fydd yn derbyn y Wisg Werdd mae Aleighcia Scott, y gantores reggae Gymreig-Jamaicanaidd o Gaerdydd sy'n un o'r hyfforddwyr ar raglen Y Llais; a'r canwr a'r actor Ryland Teifi, sy'n wreiddiol o Ffostrasol ond bellach yn byw yn Iwerddon.
Ymhlith y rhai fydd yn derbyn y Wisg Las mae seren pêl-droed dynion Cymru ac Abertawe, Joe Allen, a gynrychiolodd ei wlad 77 o weithiau; capten tîm pêl-droed menywod Cymru, Angharad James o Hwlffordd; a'r chwaraewr dartiau o'r Barri, Dylan Williams, a sefydlodd blatfform Darts Cymru yn 2019.
Bydd y ddarlledwraig a'r gyflwynwraig o Landeilo, Heledd Cynwal, hefyd yn derbyn y Wisg Las, yn ogystal â chyflwynwraig Prynhawn Da a Heno, Mari Grug James, sydd yn llysgennad dros Ymchwil Canser Cymru.
Mae'r anrhydeddau blynyddol yn cael eu rhannu i dri chategori:
- Y Wisg Werdd am gyfraniad i'r celfyddydau
- Y Wisg Las i'r rhai sy'n amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduraeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl
- Y Wisg Wen i enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn unig
Dyma restr llawn o Urddau'r Orsedd ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las:
Y Wisg Werdd
Eifion Daniels - Blaen-ffos
Ann Siriol Davies - Llantwd
Catrin Davies - Boncath
Emyr Davies - Aberporth
Malachy Owain Edwards - Llanfairpwll
Carys-Hedd - Llandudoch
Jo Heyde - Llundain
Jane James - Tyddewi
Wendy Lewis - Boncath
Elin Meek - Abertawe
Bethan Miles - Aberystwyth
Keri Graham Morgan - Cwm Aman
Meinir Jones Parry - Caerfyrddin
Rhiannon Pritchard - Caerdydd
Eleri Roberts - Henllan Amgoed
Aleighcia Scott - Caerdydd
Ryland Teifi - Ffostrasol ac Iwerddon
Eleri Twynog - Caerdydd a Llanbedr Pont Steffan
Gillian Elisa Thomas - Llanbedr Pont Steffan
Jane Watts - Llandudoch
Efan Miles Williams - Lledrod
Eiri Thrasher - Llandysul
Y Wisg Las
John Adams-Lewis - Aberteifi
Joe Allen - Arberth
Heledd Cynwal - Llandeilo
Nia Wyn Davies - Llanybydder
Aled Eirug - Caerdydd
Wyn Evans - Cwmfelin Mynach
Meirwen Evans - Cwmfelin Mynach
Neville Evans - Ffos-y-ffin
Jaci Gruffudd - Abertawe
Eluned Hâf - Bro Morgannwg
Angharad James - Hwlffordd
Mari Grug James - Sanclêr
Wynfford James - Caerfyrddin
Jennifer Jenkins - Aberystwyth
Arwel Jones - Ciliau Aeron
Geraint Herbert Jones - Llanybydder
Heulwen Jones - Caerdydd
Natalie Jones - Sanclêr
Tegryn Jones - Llangwm
Eurfyl Lewis - Llanglydwen
Jean Lewis - Meidrim
Gwenda Mathias - Hermon, y Glog
Rhodri Siôn Morgan - Caerdydd
Steve Perks - Caerfyrddin
Denise Lewis Poulton - Adpar a Llundain
Huw Llywelyn Roberts - Aberystwyth
Glenys Ann Thomas - Caerfyrddin
Hywel Thomas - Penarth
Owen Thomas - Pen-bre
Wyn Thomas - Castellnewydd Emlyn
Dylan Williams - Y Barri
Hubert Alun Williams - Llangyndeyrn