Seren y byd actio'n gwrthwynebu gorsaf radar anferth yn Sir Benfro

Jerome Flynn

Mae un o sêr y byd teledu wedi ychwanegu ei lais i wrthwynebiadau yn Sir Benfro i gynllun i adeiladu canolfan radar anferth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Bwriad y Weinyddiaeth ydy codi cyfanswm o 27 o ddisglau radar anferth ar safle presennol Baracs Cawdor fel rhan o gynllun DARC - Deep Space Advanced Radar Concept - sydd yn bartneriaeth gyda llywodraethau America ac Awstralia o dan gytundeb AUKUS.

Cafodd safle Breudeth ei chlustnodi fel yr un sydd yn cael ei ffafrio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhrydain ym mis Rhagfyr 2023.

Mae cais cynllunio bellach wedi ei gyflwyno yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, ac fe fydd y disglau radar ar gyfer DARC yn 20 metr o uchder ac yn 15 metr o led petae'r cynllun yn cael ei gymeradwyo.

Actor adnabyddus

Mae'r actor Jerome Flynn, sy'n byw yn Sir Benfro ac ddaeth yn enwog am ei ran yng nghyfresi teledu 'Soldier Soldier', 'Robson & Jerome' ac yn fwy diweddar 'Game Of Thrones', wedi ymuno yn y ddadl am gynllun DARC drwy rannu fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn y fideo mae Mr Flynn yn cyfeirio at y cynllun fel "y cais cynllunio mwyaf ffiaidd sy'n cael ei arwain gan fyddin yr Unol Daleithiau, gyda chefnogaeth Donald Trump, i osod 27 o ddysglau radar ar ymyl ein parc cenedlaethol arfordirol annwyl".

Mae ymgyrchwyr wedi rhybuddio y byddai safle radar DARC yn gwneud Sir Benfro yn darged milwrol amlwg ac y byddai'n rhoi'r gallu i Donald Trump a'r Unol Daleithiau reoli'r gofod o Gymru.

Bwriad cynllun DARC ydy cadw golwg ar loerennau a gwrthrychau eraill yn y gofod, ac adnabod bygythiadau posib i ddiogelwch. 

Tri safle rhyngwladol

Mae'r safle DARC cyntaf, sydd wedi ei adeiladu yn Awstralia, wedi agor ers y llynedd, gyda disgwyl y bydd pob un o'r tri safle yn weithredol erbyn 2030. 

Fe fydd y dechnoleg newydd yn medru darganfod gwrthrychau o faint pêl-droed, rhyw 22,000 o filltiroedd i ffwrdd yn y gofod.

Ar hyn o bryd, mae safle Breudeth yn gartref i Gatrawd Signal 14, ond fe fyddan nhw yn gadael eu cartref yn Sir Benfro yn 2028.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud y gallai'r safle radar newydd greu 100 o swyddi hir dymor. 

Llun: Rick Findler/World Vision/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.