Teyrnged i'r Athro Colin Williams, yr arbenigwr rhyngwladol ar gynllunio ieithyddol
Dyma deyrnged gan Dr John Walsh, Athro Cyswllt mewn Gwyddeleg ym Mhrifysgol Galway, a gyhoeddwyd yn gyntaf ar wefan newyddion Gwyddeleg Tuairisc.ie.
Mae’r Athro Colin Williams, un o’r arbenigwyr rhyngwladol mwyaf adnabyddus ar atgyfnerthu ieithoedd lleiafrifol, wedi marw'n 75 oed.
Roedd y Wyddeleg ymhlith yr ieithoedd yr ymchwiliodd iddynt yn ystod gyrfa hir o fwy na hanner canrif, ac roedd ganddo gysylltiad agos â pholisi iaith yn y gogledd a’r de ar hyd y blynyddoedd.
Ganwyd Colin Williams yn y Barri yn 1950. Roedd yn un o’r genhedlaeth gyntaf i dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal honno yn y 1950au.
Fe wnaeth y rhwydwaith diwylliannol ac ieithyddol o amgylch yr ysgolion hynny feithrin hunaniaeth Gymreig gref ynddo.
O oedran ifanc, roedd Colin wedi’i swyno gan gwestiynau cymdeithasol fel cydraddoldeb, datblygiad, datrys gwrthdaro a chysylltiadau rhyngwladol - gwerthoedd a oedd wedi’u gwreiddio yn ei ffydd Gristnogol.
Ar ôl cwblhau gradd israddedig mewn masnach ym Mhrifysgol Abertawe ar ddechrau’r 1970au, fe wnaeth ymgymryd â PhD yn yr un brifysgol ar y cysylltiad rhwng iaith a chenedlaetholdeb.
Treuliodd gyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Western Ontario, cyfnod a feithrinodd berthynas gydol oes â Chanada yn ystod ei yrfa.
Ym Mhrifysgol Sir Stafford y cafodd Colin ei swydd ddarlithio gyntaf, yn yr Adran Ddaearyddiaeth, o 1976 ymlaen.
Treuliodd gyfnodau yng Ngogledd America yn y 1980au, lle bu’n ymchwilio i bolisi iaith yn Québec ac mewn taleithiau eraill yng Nghanada.
Yn 1993, fe’i penodwyd yn Athro Sosioieithyddiaeth yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Sefydlodd ganolfan ymchwil yno ar iaith, cynllunio a pholisi, a datblygodd fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig ar bolisi iaith yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill.
Rhannu arbenigedd
Roedd Colin yn credu’n gryf mewn rhannau ei ddysg yn gyhoeddus, ac fe dreuliodd lawer o’i fywyd yn rhannu ei arbenigedd yn hael â mudiadau cymunedol, cyrff cyhoeddus a llywodraethau.
Pan oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei sefydlu ar ddiwedd y 1990au, cadeiriodd bwyllgor a luniodd gyngor ar ddefnydd swyddogol y Gymraeg ynddo.
Yn 2000, fe gafodd ei benodi yn aelod o’r hen Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac roedd ganddo gysylltiad rheolaidd â sefydliadau rhyngwladol sy’n gweithio dros hawliau lleiafrifoedd neu hawliau iaith, megis yr OSCE a’r Network to Promote Linguistic Diversity.
Y rhan a chwaraeodd yn y gwaith o ddatrys gwrthdaro gwleidyddol hirsefydlog oedd y ffynhonnell ei foddhad fwyaf iddo yn ystod ei yrfa.
Ymhlith y rhain roedd proses heddwch Gogledd Iwerddon: o’r 1990au ymlaen, bu Colin yn gweithio gyda’r sefydliad traws-gymunedol Ymddiriedolaeth Ultach a’r Biwro Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Llai eu Defnydd - a oedd â’i bencadlys yn Nulyn - ar gwestiynau iaith a chydraddoldeb.
Ysgrifennodd bapurau ar gydraddoldeb grwpiau, hawliau iaith ac amrywiaeth ddiwylliannol a fu’n sail i’r darpariaethau ynghylch y Wyddeleg ac Wlster Albanaidd yng Nghytundeb Dydd Gwener y Groglith.
Rhoddodd gyngor parhaus i weision sifil a gwleidyddion cyn ac ar ôl sefydlu’r Cynulliad. Bu’n gweithio gyda’r mudiad Gwyddeleg Pobal ar ddrafftiau o Ddeddf Iaith i’r Gogledd a gyhoeddwyd yn 2006 a 2012, ac a osododd sylfaen gadarn i’r ymgyrch gymunedol fywiog a flodeuodd wedi hynny.
Roedd pasio deddf iaith yn y Gogledd o’r diwedd yn destun boddhad mawr iddo, er ei fod yn ymwybodol iawn o’i gwendidau.
Braint
O ddiwedd y 1970au ymlaen, roedd Colin yn ymwelydd cyson ag Iwerddon, lle bu’n gweithio gyda gwahanol fudiadau Gwyddeleg wrth wneud ymchwil.
Ar y cyd â’r diweddar Peadar Ó Flatharta, cymerodd ran mewn ymchwil arloesol ar ddeddfwriaeth iaith, ac roedd perthynas hirsefydlog rhyngddo ef a Swyddfa’r Comisiynydd Iaith.
Trefnodd ef, Peadar Ó Flatharta a Seán Ó Cuirreáin gynhadledd ryngwladol ar hawliau iaith yn Nulyn yn 2013, achlysur a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith.
Roedd yn un o’r tîm a benodwyd gan FIONTAR, Prifysgol Dinas Dulyn, i gynghori Llywodraeth Iwerddon ar y Strategaeth 20 Mlynedd ar gyfer y Wyddeleg.
Er i Colin ymddeol o Brifysgol Caerdydd yn 2015, parhaodd yn weithgar ym maes ymchwil ac ysgolheictod fel athro cyswllt ym Mhrifysgol Caergrawnt ac mewn sefydliadau academaidd eraill.
Roedd gan Colin arbenigedd dwfn mewn llu o feysydd academaidd, a gallai dynnu ar yr holl wyddorau cymdeithasol i gynnal ei ddadansoddiad treiddgar o faterion iaith.
Cefais i’r fraint o fod ar y tîm a olygodd gyfrol deyrnged iddo, Language, Policy and Territory (Palgrave Macmillan, 2022). Roedd ysgrifau’r llyfr hwnnw’n ymdrin â pholisi a chynllunio iaith yn y cyd-destunau yr oedd Colin yn fwyaf cyfarwydd â nhw: Cymru, Canada, Iwerddon, yr Alban a Chatalwnia.
Arwr
Nid oes modd cyfrif y llyfrau a’r erthyglau a ysgrifennodd yn ystod ei oes, ac lai na blwyddyn yn ôl y daeth ei waith academaidd diweddaraf, Official Language Regimes (Palgrave Macmillan, 2025), i’r fei, cyfrol sy’n trafod achos y Wyddeleg yn gynhwysfawr ymhlith ieithoedd eraill.
Mae llyfr arall ganddo ar yr un themâu eto i ddod, a gwblhawyd cyn ei farwolaeth.
Roedd Colin wedi bod yn dioddef o glefyd motor niwron dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n dyst i’w ddewrder a’i wroldeb iddo orffen y llyfrau olaf hynny pan nad oedd ond yn gallu ysgrifennu ag un bawd.
Roedd yn arwr ym mhob ystyr: nid oedd owns o falchder academaidd ynddo, roedd yn trin pawb yn deg, ac roedd yn cefnogi ymchwilwyr eraill yn hael ac yn wirfoddol.
Yn aml, rhoddodd gyngor er fy lles innau mewn cyfnodau o angen, ac nid oes unrhyw un arall wedi cael cymaint o ddylanwad arnaf fel ymchwilydd.
Boed iddo gael gorffwys tragwyddol, a chydymdeimlad o’r galon â’i weddw Meryl a’i fab Rhodri.
Cysga’n dawel Colin, gyfaill y galon gynnes.
