Gorchymyn i gau siop yng Nghaernarfon am gyfnod am werthu fêps i blant
Mae perchenog busnes yng Nghaernarfon wedi cael gorchymyn i gau ei siop am chwe wythnos ar ôl nifer o droseddau masnachu.
Cafodd y gorchymyn llys ei wneud ar ôl i swyddogion safonau masnach ddarganfod fod siop Caernarfon Convenience Store ar stryd Y Bont Bridd wedi gwerthu fêps nicotin i berson o dan 18 oed, ac yn gwerthu "nifer sylweddol" o fêps anghyfreithlon a theganau ffug.
Cafodd y siop orchymyn i gau ar 5 Mai, ac fe fydd y siop, sydd wedi bod ar gau am bythefnos yn barod, ar gau am chwe wythnos arall tan 15 Mehefin.
Daw hyn yn dilyn Hysbysiad Cau a gyflwynwyd ar 22 Ebrill gan dîm Safonau Masnach y Cyngor o dan Adran 76 o Ddeddf Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Cymerwyd y camau hyn gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru oherwydd "gwerthiant fêps nicotin i blant, gwerthu fêps anghyfreithlon yn ogystal â theganau ffug a allai fod yn anniogel, gan gyfrannu at niwsans ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol" meddai Cyngor Gwynedd.
'Cyfrifoldeb cyfreithiol'
Dywedodd Andrew Parry, Rheolwr Safonau Masnach (Gwarchod y Cyhoedd) Cyngor Gwynedd: "Mae gan bob busnes gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod cynnyrch sy’n gyfyngedig o ran oedran yn cael eu gwerthu'n ddiogel ac i wirio oed cwsmeriaid.
"Mae gwerthu fêps nicotin i blant yn anghyfreithlon ac yn niweidiol iawn, ac mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod busnesau yn gweithredu yn unol â'u cyfrifoldebau.
“Er bod ein swyddogion bob amser yn anelu at ymgysylltu'n gadarnhaol gyda busnesau i'w helpu i ddeall eu cyfrifoldebau, daw pwynt pan nad oes gennym ddewis ond cymryd camau cyfreithiol.
"Rwy'n ddiolchgar i'r Swyddogion Safonau Masnach am eu hymchwiliad trylwyr, ond hefyd i Heddlu Gogledd Cymru am eu cefnogaeth a'u cymorth parhaus.
"Mae hyn yn anfon neges glir am ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r cyflenwad o gynhyrchion anghyfreithlon yn ein cymunedau a stopio gwerthu cynnyrch cyfyngedig oedran i blentyn."
"Byddem yn annog aelodau'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus am yr hyn maen nhw'n ei brynu ac i osgoi cefnogi unrhyw fasnach anghyfreithlon sy'n peri risg wirioneddol i'n cymunedau."
