Cyhoeddi enw dyn 102 oed a fu farw ar ôl ymosodiad honedig mewn tafarn

Phillip Ormerod

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 102 oed a fu farw ar ôl ymosodiad honedig mewn tafarn.

Bu farw Phillip Ormerod o Gwmbrân yn yr ysbyty ar ôl adroddiadau o ymosodiad yn nhafarn The Crow’s Nest yn y dref am tua 22.25 ar nos Sadwrn 1 Awst.

Fe gafodd dyn 56 oed o Lanelli ei arestio ar amheuaeth o ymosod cyn cael ei ryddhau wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

Mae'r Ditectif Brif Arolygydd Shelley Comley, sy'n arwain yr ymchwiliad, yn gofyn i'r cyhoedd beidio â dyfalu am yr hyn a ddigwyddodd tra bod yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.

"Rydym yn deall diddordeb y cyhoedd yn y digwyddiad hwn, ond rydym eisiau atgoffa pobl nad ymchwiliad troseddol gweithredol yn unig yw hwn, ond bod teulu sydd wrth galon y digwyddiad wedi colli anwylyd.

"Plîs ystyriwch yr effaith y gallai sylwadau sy'n dyfalu am yr hyn a ddigwyddodd, yn enwedig ar-lein, ei gael ar y teulu a'r ymchwiliad."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a oedd yn y dafarn rhwng 22:00 a 23:00 ar nos Sadwrn 1 Awst ac sydd heb gysylltu â'r llu, i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600249432.

Llun: Llun teulu o Phillip Ormerod drwy PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.