Cyhoeddi enillwyr Gwobrau'r Selar 2026
Mae enillwyr Gwobrau’r Selar wedi eu cyhoeddi ar ôl i’r seremoni ddychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth am y tro cyntaf ers 2020 nos Sadwrn.
Roedd yn noson lwyddiannus i’r cerddor o Frynefail, Buddug wedi iddi gipio’r gwobrau ar gyfer yr ‘Artist Unigol Gorau’ yn ogystal â ‘Chân Orau’ a ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ am ei record Disgyn.
Nid dyma'r tro cyntaf iddi ennill, wedi iddi ddod i’r brig mewn pedair categori y llynedd hefyd.
Bwncath a Pys Melyn rannodd y wobr ar gyfer y ‘Band Gorau’ eleni gan nad oedd modd gwahaniaethu rhwng nifer y pleidleisiau gan y cyhoedd.
Y rapiwr a'r bîtbocsiwr, Mr Phormula, neu Ed Holden, oedd enillydd y 'Wobr Cyfraniad Arbennig,' gyda Chylchgrawn Y Selar yn disgrifio’r wobr honno fel un o'u "gwobrau pwysicaf."
Mae enillydd 'Gwobr Cyfraniad Arbennig' un o ddau sy’n cael eu dewis gan dîm golygyddol Y Selar, yn ogystal â 'Gwobr 2025'. Y cynhyrchydd Don Leisure ddaeth i'r brig ar gyfer y wobr honno.
Ymhlith yr enillwyr eraill roedd enillydd rhaglen deledu Y Llais ar S4C y llynedd, Rose Datta a ddaeth i’r brig yng nghategori ‘Seren y Sin.’
Perfformiodd Rose hefyd yn ystod y noson gyda’i band Taran, a enillodd y wobr ‘Record Fer Orau’ y llynedd.
Roedd perfformiadau byw gan rai o'r enillwyr eraill hefyd nos Sadwrn, yn cynnwys Buddug a Bwncath.
Rhi Jorj oedd yn fuddugol yng nghategori ‘Record Fer Orau’ gydag Amser, a Dafydd Owain ddaeth i’r brig am y ‘Record Hir Orau’ gydag Ymarfer Byw.
Martha Elen oedd enillydd y wobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ a Mynadd ddaeth i’r brig am y ‘Gwaith Celf Gorau’ gyda’r record Adra.
Tafwyl, yr ŵyl yng Nghaerdydd oedd enillydd ‘Digwyddiad Byw Gorau’ eleni.
Roedd y digwyddiad yn dychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef lleoliad Gwobrau’r Selar rhwng 2015 a 2020, am y tro cyntaf ers y pandemig eleni.
“Roedd hi’n grêt i fod nôl yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth eleni, ac roedd hi’n noson ardderchog” meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.
“Pleidlais gyhoeddus sy’n dewis enillwyr y mwyafrif o’r categorïau wrth gwrs, felly mae’r rhestr enillwyr yn adlewyrchiad o’r hyn mae’r cyhoedd, y bobl sy’n mynd i’r gigs ac yn prynu’r gerddoriaeth, yn ei werthfawrogi.
“Er bod Buddug wedi cael noson ardderchog eto’n cipio tair gwobr, roedd tipyn o amrywiaeth ymysg yr enillwyr eraill ac mae hynny’n adlewyrchu amrywiaeth a bywiogrwydd y sin ar hyn o bryd. Yn bersonol, roedd yn braf iawn gallu rhoi’r wobr Cyfraniad Arbennig i Ed Holden, sy’n berson a cherddor dwi’n ei edmygu’n fawr, ac sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy dros y chwarter canrif diwethaf.”
Prif Lun: Y Selar