Sgandal Epstein: Yr heddlu'n dal i archwilio cyn-gartref Andrew
Parhau mae'r chwilio yng nghyn-gartref brawd y Brenin, Andrew Mountbatten-Windsor yn Berkshire ddydd Sul, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig beidio â diystyru cynnal ymchwiliad o dan arweiniad barnwr i gysylltiadau'r cyn-dywysog â'r troseddwr rhyw a biliwnydd, Jeffrey Epstein.
Cafodd Andrew ei arestio fore Iau ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Treuliodd 11 awr yn y ddalfa ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 66 oed, wedi honiadau iddo rannu gwybodaeth gyfrinachol gydag Epstein pan yn gennad masnach y Deyrnas Unedig.
Cafodd ei ryddhau o dan ymchwiliad nos Iau.
Cynyddu mae'r galwadau am ymchwiliad ehangach i'r berthynas rhwng Andrew ac Epstein.
Wrth siarad â'r Sunday Mirror, dywedodd y Cymro Cymraeg Dai Davies, sy'n gyn-bennaeth diogelwch y Teulu Brenhinol, bod angen ymchwiliad o dan ofal barnwr.
Yn gyn-Brif Uwch Arolygydd Heddlu'r Met, dywedodd Mr Davies bod angen ymchwiliad lle byddai "galw ar bobl o bob lefel i gyfrannu, gan gynnwys pobl o'r Palas, diplomyddion, ysgrifenyddion preifat a swyddogion y wasg, er mwyn darganfod pwy oedd yn gwybod beth ,a phryd."
Wrth gael ei holi a fyddai Llywodraeth y DU yn ystyried cam o'r fath, dywedodd Ysgrifennydd Addysg San Steffan wrth wasanaeth newyddion Sky y byddai'r llywodraeth yn ystyried unrhyw "argymhellion doeth sy'n cael eu cynnig."
"Ond mae'n rhy gynnar ar y foment, gan fod yn rhaid i ni ganiatáu i'r heddlu gyflawni eu gwaith," meddai Bridget Phillipson.
"Mae angen amser arnyn nhw i wneud hynny, ac fel y dywedodd y Brenin, does neb uwchlaw'r gyfraith, ac mae'n iawn fod yr heddlu'n mynd i le bynnag mae'r dystiolaeth yn eu harwain. Felly dyna'r ffocws ar y foment," ychwanegodd.
Mae plismyn wedi bod yn archwilio cyn-gartref Andrew Mountbatten-Windsor yn Windsor, Berkshire, ers dydd Iau.
Mae 30 o ystafelloedd yn y plasty.
Mae e wedi gwadu yn y gorffennol iddo wneud unrhywbeth o'i le mewn cyswllt â'i berthynas â'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein, ond dyw e ddim wedi ymateb yn uniongyrchol i'r honiadau diweddaraf.