Cyflwyno hyfforddiant iechyd meddwl yng nghlybiau rygbi Cymru
Bydd hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth am broblemau iechyd meddwl bellach yn cael ei gyflwyno yng nghlybiau rygbi ledled Cymru.
Daw hynny fel rhan o’r ymdrechion i fynd i’r afael â’r heriau y mae dynion yn eu hwynebu mewn tawelwch, gyda hyfforddiant o’r fath eisoes ar gael i glybiau pêl-droed.
Mae'r cyfraddau hunanladdiad uchaf yng Nghymru ymhlith dynion rhwng 35 a 55 oed.
Nod y cwrs felly yw helpu timau, hyfforddwyr a chwaraewyr i adnabod yr arwyddion pan fyddai pobl yn profi anawsterau iechyd meddwl, a chynnig cefnogaeth iddynt.
Mae mwy na 400 o glybiau pêl-droed ar draws Cymru eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan yn y cwrs ar-lein, sy'n cael ei gynnal gan UK Coaching a'r elusen iechyd meddwl Mind.
Fe ddywedodd Rhys Blumberg, Prif Swyddog Gweithredol Clwb Rygbi'r Dreigiau, ei fod yn annog pob clwb i fanteisio ar yr adnoddau newydd.
“Fel clwb rygbi proffesiynol sy'n cynrychioli ardal enfawr yng Nghymru, rydym bob amser yn awyddus i ehangu'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i gynnig cyngor ac arweiniad ar iechyd meddwl.
“Rydym yn croesawu'r newyddion bod hyfforddiant ymwybyddiaeth yn cael ei gyflwyno i glybiau rygbi ar draws Cymru i roi'r sgiliau i bobl roi cefnogaeth yn y ffordd fwyaf priodol.”
Angen gweithredu 'cyn cyrraedd pwynt argyfwng'
Mae'r fenter yn rhan o ymdrechion ehangach i sicrhau bod clybiau chwaraeon yn gallu darparu mannau cefnogol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys.
Wrth siarad mewn uwchgynhadledd ar atal hunanladdiad ymhlith dynion yn Rodney Parade yng Nghasnewydd ddydd Iau, dywedodd Gweinidog Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy AS, ei fod yn “hanfodol” cyflwyno mwy o gymorth “cyn cyrraedd pwynt argyfwng.”
“Gall chwaraeon chwarae rhan werthfawr o ran cyrraedd dynion sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl,” meddai.
“Rydyn ni eisiau i fwy o glybiau chwaraeon ddysgu sut i gefnogi eu chwaraewyr, eu timau a'u staff ar gam cynnar.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynnydd wedi'i wneud o ran gwella mynediad at wasanaethau cymorth heb yr angen am atgyfeiriad.
Dywedodd bod mwy na 230,000 o bobl wedi cysylltu â gwasanaeth iechyd meddwl 111 dewis 2 ers ei lansio yng Nghymru yn 2022.
Fel rhan o’r ymdrechion, bydd dros £2 filiwn hefyd yn cael ei fuddsoddi yn y Canolfan Genedlaethol ar gyfer ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ym Mhrifysgol Abertawe.
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Chwaraeon: “Mae clybiau chwaraeon yn llawer mwy na lleoedd i chwarae – maen nhw'n lleoedd lle mae cyfeillgarwch yn cael eu ffurfio, lle mae pobl yn cael ymdeimlad o berthyn, a lle gallwn gadw llygad ar ein gilydd.
“Gyda mwy na 400 o glybiau pêl-droed eisoes wedi cofrestru, rwy'n gwybod y bydd ein clybiau rygbi hefyd yn croesawu'r cyfle hwn gyda'r un brwdfrydedd, ac rwy'n eu hannog i gymryd rhan."
Prif lun: Tîm rygbi Cymru (Asiantaeth Huw Evans)