Cyflwyno cynlluniau am safle gofod yn Sir Benfro
Mae cynlluniau cynnar i osod system radar ryngwladol yn Sir Benfro, a fyddai’n monitro lloerennau yn y gofod, wedi’u cyflwyno.
Byddai’r dechnoleg yn creu rhwydwaith gyda dau safle arall ar y ddaear – yn Awstralia ac America – pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo.
Y nod fyddai ailddatblygu Gorsaf Filwrol Cawdor ym mhentref Breudeth drwy osod 27 radar yno, yn ôl cynlluniau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llywodraeth y DU.
Fe fyddai’r dechnoleg yn monitro’r hyn sy’n digwydd unrhyw le yn yr awyr ledled y byd “ar bob adeg o’r dydd ac o dan unrhyw amodau tywydd.”
Byddai’r system ryngwladol yn cael ei hadnabod fel DARC, sef ‘Deep Space Advanced Radar Concept.’
Daeth y cynlluniau i’r golwg cyhoeddus yn 2023 wedi i gyn Ysgrifennydd Amddiffyn y DU ar y pryd, Grant Shapps nodi mai Gorsaf Filwrol Cawdor oedd yn cael ei ffafrio ar gyfer y safle.
Bydd ymgynghoriad yn para hyd at 23 Mawrth cyn i Lywodraeth y DU a’r Weinyddiaeth Amddiffyn gyflwyno cais cynllunio ffurfiol i Gyngor Sir Benfro.
Mae rhai pobl leol eisoes wedi mynegi eu gwrthwynebiad drwy ffurfio grŵp ymgyrchu PARC (Pembrokeshire Against Radar Campaign), sydd wedi disgrifio’r cynlluniau fel “prosiect dianghenraid.”
Dywedodd datganiad o gefnogaeth a gafodd ei gyflwyno gyda’r cynlluniau gan Montagu Evans LLP, y byddai’r safle yn monitro a chanfod unrhyw beth yn orbit y Ddaear “gan gynnwys lloerennau, sbwriel gofod, a bygythiadau posibl.”
Dywedodd datganiad tebyg o’r adran gofod yn America (United States Space Force Space Systems Command) bod y safle yn cydymffurfio â'r canllawiau priodol.