'Cyfle unigryw' i CPD Llanilltud Fawr mewn cystadleuaeth Ewropeaidd
'Cyfle unigryw' i CPD Llanilltud Fawr mewn cystadleuaeth Ewropeaidd
Bydd CPD Llanilltud Fawr yn teithio i Rufain yn yr Eidal ddydd Sadwrn i chwarae mewn cystadleuaeth unigryw i glybiau Ewropeaidd.
Eleni fe fydd y clwb sydd yn chwarae yng Nghynghrair y De, sef ail haen cynghreiriau Cymru, yn herio Vesta Calcio, sydd yn chwarae yn seithfed haen yr Eidal, yn Nhlws Fenix.
Mae Tlws Fenix yn gystadleuaeth i dimau sydd yn chwarae mewn cynghreiriau is ac sydd ag "arwyddocâd cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol eithriadol".
Ar hyd y blynyddoedd mae'r clwb ym Mro Morgannwg wedi denu sylw rhyngwladol am eu dewis unigryw o gitiau lliwgar ar gyfer eu golwyr.
Hefyd mae gan y clwb cysylltiad cryf gydag un o glybiau mwyaf yr Ariannin, Boca Juniors, a hynny gan fod citiau'r ddau glwb mor debyg.
Cafodd y clwb wahoddiad i chwarae yn Nhlws Fenix am y tro cyntaf yn 2023, ac fe fydd y chwaraewyr yn cymryd rhan eto eleni.
Mae Tom Tweedy wedi chwarae yn y rhan fwyaf o gemau'r clwb yn Ewrop, ac er bod y profiad ddim yn newydd iddo, dyw dal methu credu bod ganddo'r cyfle i chwarae pêl-droed dramor.
"Chwarae yn Ewrop, ti'n rhoi nhw yn like top level yn pêl-droed," meddai wrth Newyddion S4C.
"Y chance i chwarae amateur yn Ewrop yn jyst mor unigryw a, bydd ti ddim yn gallu gael e unrhyw place eraill na Llantwit Major rili.
"Mae’n profiad gwych, pan o’n i’n dechrau chwarae pêl-droed bydd fi dim yn meddwl chwarae yn Ewrop i fel unrhyw lefel.
"Ond ie, i gallu neud e yma ma’n brofiad gwych."
Yn wahanol i Tom Tweedy, bydd chwarae yn Nhlws Fenix yn brofiad newydd i Jack Bevan.
Mae'r ymosodwr 21 oed wedi ei enwebu ar gyfer tîm y tymor yng Nghynghrair y De, ond chwarae yn Ewrop fydd un o'r pethau mwyaf cyffrous iddo wneud, meddai.
"Mae'n eithaf cŵl, dwi erioed wedi gweld clwb ar lefel llawr gwlad yn gwneud unrhyw beth fel hyn," meddai wrth Newyddion S4C.
"Felly mae'n gyffrous iawn ac yn rhywbeth dwi erioed wedi gwneud o'r blaen - yn sicr mae'n ddechreuad da i fy ngyrfa yn chwarae pêl-droed dynion."
Un gêm yn unig mae'r clwb wedi ei hennill yn y gystadleuaeth hon, a hynny ar eu cae eu hunain yn erbyn BK Skjold o Ddenmarc yn 2024.
Maen nhw wedi chwarae yn Copenhagen, Antwerp a Llundain yn y gystadleuaeth, sydd yn cael ei chynnal yn flynyddol.
'Tref fach ar lwyfan mawr'
Dechreuodd CPD Llanilltud Fawr ddenu sylw rhyngwladol ar ôl gwerthu citiau unigryw yn 2022.
Y cyntaf oedd cit gyda melin wynt neon arno, a hynny gan fod melin wynt wrth ymyl eu cae.
Datblygodd y syniad ar hyd y blynyddoedd ac fe gafodd crysau gyda delweddau o Mr Blobby, masgot Clwb Pêl-droed Boca Juniors o'r Ariannin a physgod a sglodion eu rhyddhau.
Cafodd citiau eu prynu mor bell ag Awstralia, De Corea ac America, gyda channoedd yn prynu yn yr Ariannin.
Dywedodd Tom Tweedy fod gweld poblogrwydd y clwb ledled y byd yn rhywbeth "sbesial".
“Ni’n cael ffans yn Argentina, mae ‘na pobl wearing kits Llantwit yn Boca Juniors games, maen nhw jyst yn diddorol, unigryw, ie jyst yn sbesial rili," meddai.
“Ti’m yn disgwyl unrhyw beth a ti’n mynd ar Twitter, ni’n rhan o rywbeth arall.”
Ychwanegodd Jack Bevan fod y dilyniant yn "rhyfeddol" i dref sydd â phoblogaeth o tua 10,000.
"Mae'r dilyniant sydd gan y clwb yn eithaf rhyfeddol ar gyfer dref mor fach yng Nghymru," meddai.
"Ti ddim yn cynrychioli'r clwb yn unig yn y gystadleuaeth hon, ond dref fach hefyd."
Gyda'r gêm fawr yn agosáu, mae'r chwaraewyr yn edrych ymlaen at chwarae ym mhrifddinas yr Eidal.
"Dwi'n credu bydd yr awyrgylch yn anghredadwy," meddai ymosodwr y clwb, Kofi Rowe.
"Fe fydd hi'n dwym, a dwi'n credu dyna'r unig ffactor fydd yn erbyn ni achos bod ni ddim yn chwarae pan mae'n boeth fel arfer.
"Ond fe fydd e'n hollol wych."
Ychwanegodd Tom Tweedy: "Mae pob gêm ni wedi chwarae abroad yn jyst hollol wahanol o chwarae fel timau yn y Cymru South.
"Mae jyst yn hollol gwahanol a jyst yn profiad bydd ti ddim yn gallu cael unrhyw place arall."