Cyfle i ffans Gavin and Stacey brynu eitemau o bennod olaf y gyfres

Clepiwr efo llofnodion yr actorion

Bydd cyfle i ffans o'r gyfres Gavin and Stacey brynu dodrefn ac eitemau a ddefnyddiwyd wrth ffilmio pennod olaf y gyfres.

Bydd yr arian sy'n cael ei godi yn yr arwerthiant yn mynd at elusen Ymchwil Canser Cymru.

Cafodd y bennod olaf ei darlledu ar Ddydd Nadolig 2024. Gwyliodd mwy na 12 miliwn o bobl y bennod.

Cyfres gomedi oedd Gavin and Stacey a oedd yn dilyn hynt a helynt cwpl a oedd wedi syrthio mewn cariad: Stacey o'r Barri a Gavin o Billericay. Cafodd ei darlledu am y tro cyntaf yn 2007.

Ruth Jones a James Corden greodd ac ysgrifennodd y gyfres. Nhw hefyd oedd yn serennu ynddi. Fe enillon nhw nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr y Gomedi Deledu Orau yng Ngwobrau Comedi Prydain yn 2018.

Ymhlith yr eitemau fydd ar werth mae crysau pêl-droed West Ham go iawn a gafodd eu gwisgo gan James Corden, Rob Brydon a Matthew Horne yn y golygfeydd a oedd yn dangos noson stag Smithy.

Bydd clepiwr sydd wedi'i lofnodi gan aelodau'r cast hefyd ar werth, yn ogystal â phaentiad tirlun a oedd yn hongian ar wal yn nhŷ Gwen.

Bydd yr arwerthiant yn cael ei gynnal yn fyw ddydd Mercher, Tachwedd 25.

Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru: “Rydym yn gyffrous ac yn teimlo'n freintiedig dros ben o fod wedi cael yr eitemau bendigedig hyn gan Tidy Productions – un o'r cwmnïau y tu ôl i Gavin and Stacey: The Finale.

“Ymddangosodd llawer o'r eitemau yn yr arwerthiant yn y bennod olaf – gan gynnwys crysau pêl-droed West Ham Smithy, Gavin ac Uncle Bryn o noson stag Smithy. Mae gennym hefyd glepiwr sydd wedi'i lofnodi gan aelodau'r cast. Mae'r rhain yn eitemau unigryw ac yn gwireddu breuddwyd i selogion Gavin and Stacey.”

Ychwanegodd: “Gallwch ddod o hyd i'r manylion ar ein gwefan – ymchwilcanser.cymru. Drwy wneud cynnig am yr eitemau arbennig hyn, gallwch ein helpu i uno Cymru yn erbyn canser, drwy godi arian i ariannu ymchwil canser o safon fyd-eang yma yng Nghymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.