Trefnwyr marathon yn ymddiheuro ar ôl cynnwys yr ‘Allianz Arena’ anghywir ar fedalau
Mae trefnwyr Marathon Sydney wedi ymddiheuro ar ôl cynnwys yr ‘Allianz Arena’ anghywir ar y medalau.
“Dydyn ni ddim yn mynd i redeg i ffwrdd oddi wrth y camgymeriad,” meddai'r trefnwyr.
Mae llun o’r Allianz Arena yn ninas Munich yn yr Almaen ar y fedal, yn hytrach na Stadiwm Allianz yn Sydney.
Mae tu allan Allianz Arena Munich wedi’i greu o filoedd o glustogau siâp diemwnt. Mae gan Stadiwm Allianz Sydney wyneb mwy gwastad.
Dywedodd llefarydd ar ran Marathon Sydney wrth y BBC: “Mae ychydig gormod o naws ryngwladol i’r fedal, gyda llun anghywir o’r stadiwm.”
Roedd yn “gamgymeriad anffodus”, ychwanegodd y llefarydd.
Mae tirnodau adnabyddus eraill Sydney yn ymddangos ar y fedal, gan gynnwys y Tŷ Opera a Phont yr Harbwr, sydd ill dau’n rhan o’r cwrs 42.2km (26.2 milltir).
Cadarnhaodd Marathon Sydney y byddai’r rhedwyr yn derbyn y fedal gyda llun o stadiwm y ddinas anghywir arni, gan nodi: “Mae’n fedal hardd, ac mae hi ychydig yn fwy unigryw erbyn hyn.
“Mae’n sicr wedi rhoi rhywbeth i bawb siarad amdano’r penwythnos hwn, a hynny mewn hwyliau da gan mwyaf.”
Fe wnaeth Allianz Arena yn yr Almaen hefyd nodi y camgymeriad ar Instagram.
“Efallai eu bod nhw wedi ceisio dod o hyd i rywbeth arall oedd ganddyn nhw’n gyffredin: Allianz Arena, Opera Sydney, pensaernïaeth unigryw, mae’r ddau’n werth ymweld â nhw!” medden nhw.
Bydd tua 40,000 o redwyr yn cymryd rhan yn y digwyddiad ar 30 Awst.