Cyfyngu troseddwyr treisgar a rhywiol i ardaloedd o ‘ychydig filltiroedd’ ar ôl eu rhyddhau o'r carchar
Gallai troseddwyr treisgar a rhywiol sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar gael eu cyfyngu i ardaloedd sydd ychydig filltiroedd o led yn unig o dan reolau newydd yng Nghymru a Lloegr.
Bydd dioddefwyr yn cael dweud eu dweud wrth benderfynu ffiniau’r ardaloedd, er mwyn lleihau’r posibilrwydd y byddan nhw’n dod ar draws y troseddwr yn annisgwyl.
Bydd y ffiniau'n cael eu gosod mewn ffordd sy’n sicrhau bod y rheini sy’n cael eu rhyddhau yn dal i allu mynd i apwyntiadau hanfodol a defnyddio gwasanaethau sy’n helpu i leihau’r perygl y byddan nhw’n aildroseddu.
Bydd y fersiwn newydd a llymach o’r parthau gwahardd presennol yn cael ei chyflwyno ym mis Hydref, meddai Llywodraeth y DU.
Ar hyn o bryd, mae’r parthau hyn yn gwahardd troseddwyr rhag mynd i leoliadau penodol, fel cartref neu weithle dioddefwr.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Alex Norris: “Rydw i’n benderfynol na ddylai unrhyw ddioddefwr orfod edrych dros ei ysgwydd, newid ei drefn arferol na byw mewn ofn o ddod ar draws y person a wnaeth niwed iddo.
“Dyna pam rydyn ni’n cyflwyno cyfyngiadau newydd llym ar droseddwyr rhywiol a threisgar, gan eu cyfyngu i ardaloedd sydd ond ychydig filltiroedd o led a defnyddio technoleg GPS i fonitro eu symudiadau.
“Bydd dioddefwyr yn cael dweud eu dweud wrth bennu’r ffiniau hyn. Bydd hynny’n rhoi mwy o ryddid a thawelwch meddwl iddyn nhw, yn ogystal â’r hyder i fwrw ymlaen â’u bywydau.
“Mae’n syml: y troseddwyr, nid eu dioddefwyr, ddylai orfod byw gyda chanlyniadau eu troseddau.”
Daw’r newid wrth i’r Prif Weinidog, Andy Burnham, baratoi i gyflwyno canlyniad ei adolygiad o’r cynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar pan fydd y Senedd yn dychwelyd ar ôl gwyliau'r haf ar 1 Medi.
Dechreuodd cynllun rhyddhau cynnar Llafur ym mis Medi 2024, gyda’r nod o leihau gorlenwi mewn carchardai.
Fe wnaeth Mr Burnham atal cynlluniau dros dro i ryddhau rhagor o garcharorion ym mis Medi, ac mae wedi gohirio’r rhyddhau tan fis Hydref.
Mae eisoes wedi newid meini prawf y cynllun er mwyn eithrio pobl sydd wedi’u cael yn euog o dreisio, troseddau rhywiol difrifol yn erbyn plant a meithrin perthynas amhriodol.