Cyngor Cernyw eisiau'r hawl i gyflwyno’r Gernyweg ar arwyddion ffyrdd

Arwydd Cernyweg

Mae Cyngor Cernyw wedi gofyn am yr hawl i gyflwyno’r Gernyweg ar arwyddion ffyrdd ledled y sir.

Mae’r cyngor wedi ysgrifennu at Adran Drafnidiaeth San Steffan yn gofyn am ganiatâd i gynnwys cyfieithiadau Cernyweg ar arwyddion ffyrdd y rhanbarth.

Mae’r Gernyweg bellach yn cael yr un warchodaeth â’r ieithoedd Celtaidd eraill sy’n cael eu cydnabod yn Ynysoedd Prydain, gan gynnwys y Gymraeg.

Mae’r cyngor yn gobeithio y gall arwyddion ffyrdd Cernyw edrych yn debyg i rai Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Dan Rogerson, aelod cabinet Cyngor Cernyw sy’n gyfrifol am drafnidiaeth: “Hoffwn weld arwyddion priffyrdd yn dod yn ddwyieithog yn raddol wrth i arwyddion gael eu newid dros amser. 

“Dyna rydyn ni wedi’i wneud gydag arwyddion enwau strydoedd.

“Rydw i wedi ysgrifennu at yr Adran Drafnidiaeth i ofyn iddi roi’r pŵer hwnnw i ni, o ystyried statws newydd y Gernyweg.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Preece, aelod cabinet Cyngor Cernyw dros ddiwylliant, bod yr iaith yn “fyw” ac yn “rhan mor bwysig o’n treftadaeth a’n hunaniaeth”.

“Mae’r Gernyweg bellach yn cael ei chydnabod o dan Ran III o Siarter Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol,” meddai.

“Mae hyn yn rhoi’r un lefel o warchodaeth i’r Gernyweg, neu Kernewek, â’r holl ieithoedd Celtaidd eraill sy’n cael eu cydnabod yn Ynysoedd Prydain.

“Mae’n ymddangos yn deg ac yn briodol y dylen ni gael cynnwys y Gernyweg ar arwyddion ffyrdd Cernyw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.