Trawsfynydd: Cyhoeddi enwau dau ddyn fu farw mewn damwain awyren
Mae enwau dau ddyn a fu farw mewn damwain awyren ger Trawsfynydd yng Ngwynedd wedi cael eu cyhoeddi.
Bu farw Sheetal Keton Swali, 55 oed, a Ketan Ashwinkumar Swali, 59 oed, toc ar ôl hanner dydd, ddydd Gwener diwethaf.
Y gred yw bod y ddau o Sir Gaerlŷr.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau nad oedd awyren ysgafn, a oedd yn teithio o faes awyr yn Lloegr, wedi cyrraedd Maes Awyr Caernarfon yn Ninas Dinlle yn ôl y disgwyl.
Cafodd ymgyrch chwilio amlasiantaeth ei chynnal o’r awyr ac ar y ddaear, cyn i’r awyren gael ei darganfod mewn lleoliad anghysbell ger Trawsfynydd.
Fe gafodd y ddau berson oedd ar ei bwrdd eu cadarnhau’n farw yn y fan a’r lle.
Mae’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) wedi anfon tîm o ymchwilwyr i’r ardal.
