Pen Llŷn: Y gwasanaeth bws 'fflecsi' sy'n 'helpu trigolion lleol a thwristiaid i deithio yn haws'

Fflecsi Pen Llyn

Mae gwasanaeth bws ym Mhen Llŷn yn dweud ei fod yn cynnig y cyfle i bobl leol a thwristiaid i deithio yn haws ac am bris rhesymol o gwmpas yr ardal. 

Mae 'O Ddrws i Ddrws' yn ddarparwr trafnidiaeth gymunedol, ac yn ddiweddar wedi cyhoeddi y bydd ei wasanaeth 'fflecsi' yn dychwelyd ar gyfer yr haf. 

Mae'n gweithredu ar ddyddiau Gwener, Sadwrn, Sul a Llun rhwng 09:00 a 18:00 tan 12 Medi. 

Dywed yr elusen fod yr opsiwn 'fflecsi' y cynnig 'ffordd wahanol' o deithio ar fws. 

Mae'r 'fflecsi' yn gweithio'n wahanol i wasanaethau bws traddodiadol, ac yn darparu cludiant hyblyg i ac o bwyntiau codi a gollwng dynodedig ar draws Pen Llŷn.

Mae teithwyr yn archebu eu taith o flaen llaw, ac ar ôl dewis eu pwyntiau codi a gollwng a'u hamseroedd, mae'r system yna yn cynllunio'r llwybr mwyaf effeithlon. 

Image
Stephen Cantello, Michael Mellor, Dewi Williams a Tom Cantello
Mae Stephen Cantello, Michael Mellor, Dewi Williams a Tom Cantello wedi gweld budd o'r gwasanaeth.

Mae'n codi prisiau o £4 i oedolyn, £1 i blentyn neu berson ifanc a £13 am docyn grŵp i hyd at bedwar oedolyn. Mae'n nhw'n darparu teithiau am ddim i ddeiliaid cardiau teithio rhatach.

Yn ôl Drws i Ddrws, mae'r gwasanaeth yn cynnig "gwasanaeth syml, fforddiadwy ac eco-gyfeillgar" ar gyfer "siopa, teithiau dydd ac ymweld â lleoliadau a thraethau".

Ychwanegodd ei fod hefyd yn "helpu trigolion lleol a thwristiaid i deithio yn haws ac yn fwy cyfleus ar draw Pen Llŷn."

Mae un o'r trigolion lleol, Llio Jones, yn defnyddio'r bws yn gyson i fynd i'w gwaith ac i hwb gymunedol. 

"Mae'r fflecsi yn ddefnyddiol iawn. Fedra i fynd ar yr ap, maen nhw'n fy mhigo i fyny ble rydw i eisiau ac yn mynd â fi yno. Mae’n gyfleus i bobl ifanc, fel fi a fy nghefnder, i deithio o gwmpas," meddai.

Image
Teithwyr yn mwynhau'r gwasanaeth
Teithwyr yn mwynhau taith ar y bws.

Mae Stephen Cantello yn ymweld yn aml â'r ardal. 

"Dwi wedi bod yn dod yma i Aberdaron, i'r rhan hyfryd yma o'r byd, ers 25 mlynedd bellach, ac mae’r gwasanaeth hwn wir yn amlygu harddwch y rhan yma o’r byd, sef Pen Llŷn," meddai. 

Ychwanegodd Dewi Williams o Lanfairfechan: "Mae'n wasanaeth sy'n bwysig iawn i ni - y gallu i fynd o gwmpas yr ardal heb boeni yn ormodol am sut i fynd o un lle i'r nesaf. 

"Mae'n ddefnyddiol iawn i ymwelwyr yn benodol, sy'n gallu gadael eu car yn rhywle a pharhau i grwydro."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.