Tate & Lyle: Gwerthu cwmni melysion sydd â ffatri yn yr Wyddgrug i brynwr Americanaidd
Mae cwmni melysion Tate & Lyle, sydd â ffatri yn yr Wyddgrug, wedi cytuno i gael eu prynu gan gwmni Americanaidd.
Cytunodd y cwmni ddydd Llun i gael eu prynu gan gwmni cystadleuol o’r Unol Daleithiau, Ingredion Incorporated.
Bydd y cytundeb yn golygu y bydd Ingredion, sydd â’u pencadlys yn Illinois, yn talu hyd at 615c y gyfran am Tate & Lyle, sydd wedi eu rhestru ar y farchnad stoc yn Llundain.
Mae Tate & Lyle yn cyflogi bron i 5,000 o weithwyr ac yn gweithredu o 75 o safleoedd ar draws 37 o wledydd.
Ond dim ond tua 200 o weithwyr sydd bellach yn y DU, gyda’r ffatri yn yr Wyddgrug a swyddfa yn Llundain.
Mae Ingredion eisoes wedi rhybuddio y gallai arwain at doriadau “sylweddol” i weithlu Tate & Lyle.
Mae disgwyl i’r cytundeb gael ei gwblhau yn ail hanner 2027.
Dywedodd Ingredion: “Nid yw Ingredion yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i weithlu cyffredinol Tate & Lyle, ac eithrio mewn rhai swyddogaethau corfforaethol, gweithgynhyrchu a chymorth lle mae gorgyffwrdd â swyddi a gweithrediadau presennol Grŵp Ingredion.”
Wrth gyhoeddi’r cytundeb, dywedodd Tate & Lyle fod “yr amgylchedd gweithredu i gwmnïau cynhwysion a’u cwsmeriaid wedi gwaethygu”.
Mae poblogrwydd cynyddol pigiadau colli pwysau hefyd yn cael effaith ar y sector bwydydd melys.
Dywedodd David Hearn, cadeirydd Tate & Lyle: “Rydyn ni’n credu y bydd y bennod nesaf gydag Ingredion yn creu busnes â hyd yn oed mwy o botensial, mwy o faint, a mwy o fuddsoddiad mewn arloesi er mwyn cefnogi cwsmeriaid.”
Mae Tate & Lyle wedi eu rhestru ar Fynegai'r FTSE 250 yn Llundain ac fe gafodd y cwmni ei sefydlu fwy na 165 o flynyddoedd yn ôl.
Er bod y cwmni yn adnabyddus am gynhyrchu siwgr, fe werthodd Tate & Lyle eu hadran siwgr - gan gynnwys ffatri Golden Syrup yn Llundain - i American Sugar Refining am £211 miliwn yn 2010.
