Tai wedi eu difrodi yn dilyn llifogydd sydyn yng Ngwaelod-y-garth ger Caerdydd

Tai wedi eu difrodi yn dilyn llifogydd sydyn yng Ngwaelod-y-garth ger Caerdydd

Mae dŵr wedi llifo drwy ardal Gwaelod-y-garth ger Caerdydd brynhawn Iau, gan achosi difrod sylweddol i nifer o dai. 

Mae lluniau o'r ardal yn dangos presenoldeb y gwasanaethau brys yno yn cynorthwyo'r bobl sydd wedi eu heffeithio.

Mae rhai trigolion lleol wedi rhannu lluniau o ddifrod i'w tai ar y cyfryngau cymdeithaasol - gan ddangos fod y dŵr wedi llifo'n uchel i ystafelloedd ar loriau gwaelod eu cartrefi.

Roedd adroddiad am nam gyda phibell ddŵr yn lleol ar wefan Dŵr Cymru yn gynharach, ond maen nhw’n dweud nad hyn sydd yn gyfrifol am y llifogydd.

Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth dŵr lifo drwy'r pentref yn dilyn ffrwydrad yn Chwarel Ffynnon Taf, sy'n cael ei rhedeg gan gwmni Breedon Group. 

Dywedodd llefarydd ar ran Breedon Group mewn datganiad: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad a ddigwyddodd yn Chwarel Ffynnon Taf brynhawn Iau.

"Mae ein timau yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau perthnasol tra'n gweithio â'r gymuned leol wrth i ni ymateb i'r sefyllfa. 

"Ein blaenoriaeth yw cefnogi'r ymateb, ac nid ydyn ni mewn sefyllfa i ddarparu sylw pellach ar hyn o bryd."

Mewn datganiad yn gynharach, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn "ymateb i lifogydd dŵr ar Heol Berry a Heol Y Nant, Gwaelod-y-Garth, yn ardal Ffynnon Taf. 

"Os gwelwch yn dda, osgowch yr ardal i ganiatáu i'r gwasanaethau brys ddelio â'r digwyddiad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.