Swyddogion Heddlu'r Met yn destun ymchwiliad yn achos Mohamed Al Fayed

Mohamed Al Fayed

Mae un swyddog a phedwar cyn-swyddog Heddlu’r Met yn destun ymchwiliad i’r ffordd y gwnaethant ymdrin â honiadau o gamdrin rhywiol yn erbyn Mohamed Al Fayed, yn ôl adroddiadau.

Mae’r Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi lansio ymchwiliad i’r pump am gamymddwyn posib yn dilyn honiadau o gamdrin rhywiol yn erbyn cyn-berchennog Harrods, a fu farw yn 2023 yn 94 oed.

Mae mwy na 400 o honiadau o gamdrin rhywiol wedi’u gwneud yn erbyn Al Fayed sy'n dyddio’n ôl i 1977.

Mae'r IOPC wedi cadarnhau fod yr ymchwiliad, a gafodd ei lansio ym mis Ionawr 2025, yn ymwneud â honiadau yn erbyn Al Fayed gan bedwar unigolyn.

Mewn datganiad, dywedodd yr IOPC: "Mae’r ymchwiliad, sy’n cael ei gynnal gan Gyfarwyddiaeth Safonau Proffesiynol y Met dan ein cyfarwyddyd a’n rheolaeth, yn cynnwys adroddiadau a wnaed gan bedwar dioddefwr-oroeswr.

"Dechreuodd ein hymchwiliad ym mis Ionawr 2025.

"Ar hyn o bryd, mae pump o unigolion - un swyddog sy’n gwasanaethu gyda'r Met, a phedwar cyn-swyddog y Met - wedi cael gwybod eu bod yn cael eu hymchwilio am gamymddwyn posib."

Ychwanegodd: "Ar ddiwedd ein hymchwiliad, byddwn yn penderfynu a fydd unrhyw swyddogion presennol neu gyn-swyddogion yn wynebu achos disgyblu, neu a fydden nhw wedi wynebu achos o'r fath pe baent yn dal i wasanaethu.

"Mae’r dioddefwyr-oroeswyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ein hymchwiliad."

'Cynorthwyo'r ymchwiliad'

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Met wrth y BBC fod y llu yn cynorthwyo ymchwiliad yr IOPC i’r pum swyddog.

"Mae un swyddog sy’n gwasanaethu a phedwar cyn-swyddog yn cael eu hymchwilio am gamymddwyn posib. Nid yw cyflwyno hysbysiadau o reidrwydd yn golygu y bydd achosion camymddwyn yn dilyn," meddai mewn datganiad.

"Mae ein hymchwiliad i unigolion a allai fod wedi hwyluso neu alluogi troseddau gan Mohamed Al Fayed yn parhau."

Ym mis Mawrth, dywedodd Heddlu'r Met fod dyn yn ei 60au wedi cael ei holi dan rybudd am honiadau o fasnachu pobl a hwyluso treisio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad i Al Fayed.

Daeth hynny ar ôl i dair menyw gael eu holi gan dditectifs rhwng 25 Chwefror a 5 Mawrth, hefyd ar amheuaeth o gynorthwyo ac annog treisio ac ymosodiad rhywiol, cynorthwyo cyflawni troseddau rhywiol a masnachu pobl at ddibenion camfanteisio rhywiol.

Dywedodd yr heddlu na chafodd unrhyw un ei arestio, a bod yr ymchwiliad yn parhau.

Yn flaenorol, cyhoeddodd Heddlu'r Met fod y llu yn ymchwilio i unigolion o amgylch Al Fayed a allai fod wedi ei alluogi i gyflawni mwy na 400 o droseddau camdrin rhywiol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.