Stelcian: Cyflwyno trosedd newydd achos 'dryswch' cyfreithiol
Fe fydd stelcian yn cael ei wneud yn drosedd ar wahân wedi i adolygiad ddod i’r casgliad bod “dryswch” cyfreithiol o gwmpas y pwnc.
Er bod stelcian yn drosedd benodol yng Nghymru a Lloegr ers 2012, dan y drefn bresennol mae’n rhaid profi bod aflonyddu (harassment) wedi digwydd, yn ogystal â ffactorau ychwanegol fel dychryn, fel bod ymddygiad yn cael ei ystyried yn stelcian.
Daeth adolygiad gan y bargyfreithiwr Richard Wright ar ran Llywodraeth y DU i’r casgliad bod angen ailystyried diffiniad stelcian fel trosedd a’i “datglymu” o’r drosedd o aflonyddu.
Yn ôl Mr Wright, mae ‘na bellach “ddwsinau o droseddau, pob un â sylfeini tebyg, pob un yn mynd i’r afael ag ymddygiad tebyg gan ddefnyddio terminoleg ychydig yn wahanol, gydag ystod eang o gosbau uchafsymol gwahanol.”
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd yn gwneud stelcian yn drosedd ar wahân, yn cael gwared o’r angen i brofi dychryn neu ofid, ac yn cyflwyno dedfrydau llymach fel bod stelcwyr yn wynebu hyd at 10 mlynedd o garchar.
Fe fydd deddfwriaeth yn cael ei gyflwyno pan fo amser yng nghalendr y Senedd yn San Steffan, meddai’r Swyddfa Gartref.
Ychwanegodd y llywodraeth y byddai un newid yn dod i rym yn syth, gyda llysoedd nawr yn cael gosod gorchmynion gwarchod rhag stelcian (SPOs) ar stelcwyr honedig, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi derbyn euogfarn.
Fe groesawodd y Comisiynydd Dioddefwyr, Claire Waxman, y datblygiad, ond dywedodd bod y llywodraeth wedi “methu cyfle allweddol drwy beidio â mynd i’r afael â stelcian sy’n parhau ar ôl euogfarn.”