Siom i Elfyn Evans yn Rali Croatia
Fe wnaeth y Cymro Elfyn Evans orffen Rali Croatia yn safle 34 ar ôl iddo golli amser pan aeth ei gar oddi ar y ffordd ar gymal ddydd Gwener.
Ar un adeg roedd Evans yn y 50fed safle ond fe frwydrodd yn ôl ar wyth o gymalau ddydd Sadwrn a phedwar ddydd Sul.
Fe lwyddodd Evans i ennill pedwar pwynt gwerthfawr ar y cymal cyffro ddydd Sul tu ôl i enillydd y rali, Takamoto Katsuta o Japan.
Mae hyn yn golygu fod Evans yn dal yn yr ail safle ym mhencampwriaeth y byd, saith o bwyntiau tu ôl Katsuta.
Dywedodd Evans: "Roedd yn benwythnos anodd ac mae pethau’n digwydd ar brydiau.
"Doedden ni ddim yn ddigon cyflym heddiw (dydd Sul).
"Mae’n rhaid i ni daro nôl yn gryfach yn yr un nesaf.
"Mae yna gyfle arall mewn llai ‘na phythefnos."
Fe fydd Evans nawr yn troi ei sylw at Rali Islas Canarias - Yr Ynysoedd Dedwydd rhwng 23-26 Ebrill.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/2043311610085699943
Llun: X/Elfyn Evans