Caernarfon yn creu hanes wrth chwalu'r Fflint i ennill Cwpan Cymru

Caernarfon yn ennill Cwpan Cymru

Fe wnaeth CPD Caernarfon chwalu’r Fflint o 3-0 i ennill Cwpan Cymru JD am y tro cyntaf yn eu hanes ar faes Rodney Parade yng Nghasnewydd brynhawn ddydd Sul.

Dyma’r tro cyntaf i’r Cofis gyrraedd y rownd derfynol yn eu hanes tra roedd Y Fflint yn ceisio ennill y cwpan am y tro cyntaf ers 72 o flynyddoedd.

Roedd Dafydd Iwan yno i ganu’r anthem genedlaethol gyda’r dorf o dros 2,200 cyn y gêm.

Roedd amcangyfrif bod tua 1,800 o gefnogwyr Caernarfon wedi teithio i Gasnewydd

Roedd y gêm ar ben i bob pwrpas wrth i Gaernarfon sgorio tair gôl o fewn yr 16 munud cyntaf.

Fe sgoriodd Sion Bradley gydag ergyd o fewn y cwrt cosbi ar ôl chwe munud cyn i Matty Jones rwydo o gic rydd ar ôl 11 munud. 

Fe beniodd Adrian Cieślewicz i’r rhwyd o gic gornel ar ôl 16 munud gyda chefnogwyr Caernarfon yn gorfoleddu. 

Er i'r Fflint ddod yn fwyfwy i mewn i'r gêm yn yr ail hanner, prin oedd y cyfleoedd iddyn nhw ac roedd gwaith caled Caernarfon yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sirchau'r fuddugoliaeth.

Mae gwobr ychwanegol i Gaernarfon hefyd gan y byddan nhw nawr yn cael chwarae’n Ewrop dros yr haf.

Y sgôr terfynol: Caernarfon 3-0 Y Fflint.

Dywedodd Rheolwr Caernarfon, Richard Davies fod y fuddugoliaeth yn golygu popeth iddo 

"I sgorio'n fuan ac aeth y gêm union fel o'n i isho fo fynd. Oedden ni yn representio y gymuned a be ydan ni yn Caernarfon Town ydy passion pride a commitment, a gathon ni hynny. 

"Faswn i ddim yn gallu bod mwy prowd o'r hogia ma... Mae'n anhygoel!"

Aeth ymlaen i ganmol y cefnogwyr a deithiodd i lawr i Gasnewydd ar gyfer y gêm derfynol.  

"Troi allan yn y niferoedd yma, tua 1,500 heddiw - maen nhw'n haeddu hyn.... Gawn ni gyd i Europe rŵan!'  

Llun: CBDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.