'Sarhad' fyddai rhyddhau lladdwyr ei mab medd mam PC Andrew Harper

Andrew Harper

Mae mam yr heddwas Andrew Harper wedi dweud ei bod hi'n teimlo "sarhad" y gallai dau o'r rhai wnaeth ladd ei mab gael eu rhyddhau o'r carchar yn gynnar. 

Roedd Andrew Harper yn 28 oed pan gafodd anafiadau angheuol wrth ymateb i ladrad beiciau cwad yn Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, ym mis Awst 2019. 

Bu farw ar ôl cael ei ddal mewn strap oedd wedi'i gysylltu â chefn car a'i lusgo i lawr lôn wledig. 

Roedd Jessie Cole ac Albert Bowers yn deithwyr yn y car ac yn 17 oed ar y pryd. Fe gafon nhw ddedfryd o 13 mlynedd am ddynladdiad wedi achos llys yn 2020. 

Ond mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud y gallai'r ddau ddyn fod yn gymwys i gael eu rhyddhau hanner ffordd trwy eu dedfryd. 

Cafodd gyrrwr y cerbyd a achosodd farwolaeth PC Harper, Henry Long, ddedfryd o 16 mlynedd yn y carchar. Fydd o ddim yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Deddf dedfrydu newydd

O dan y Ddeddf Dedfrydu newydd sy'n dod i rym ym mis Medi, mae disgwyl i tua 6,000 o droseddwyr gael eu rhyddhau yn gynnar o'r carchar. 

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth y DU wedi methu â chadarnhau a fydd llofruddion, treisiwyr a phedoffiliaid yn cael eu heithrio o'r cynllun.

Wrth siarad gyda'r Telegraph, dywedodd Debbie Adlam ei bod wedi derbyn llythyr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cadarnhau y gallai dedfrydau Cole a Bowers gael eu lleihau.

"Mae'n gwneud i fi deimlo yn sâl. Dyw Andrew ddim yn dod yn ôl. Mae'n teimlo fel peltan a sarhad," meddai.

Ychwanegodd bod pobl "yn cael eu gollwng yn rhydd am droseddau" ym Mhrydain. 

Image
Debbie Adlam
Debbie Adlam, mam PC Andrew Harper

Dywedodd llefarydd ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Roedd hon yn drosedd erchyll, ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau PC Andrew Harper.

"Yn 2024, roedd y wlad yn wynebu argyfwng yn y carchardai a methiant llwyr yn y system gyfiawnder, gyda barnwyr yn cael eu cyfarwyddo i roi'r gorau i garcharu troseddwyr peryglus.

"Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddiogelwch y cyhoedd. 

"Rydym yn adeiladu lleoedd mewn carchardai ar y gyfradd gyflymaf ers Oes Fictoria, ac yn gwneud y penderfyniadau anodd sydd eu hangen i sicrhau bod y troseddwyr mwyaf peryglus yn cael eu carcharu."

Mae Llywodraeth y DU wedi mynnu bod y ddeddf yn golygu na fydd y troseddwyr "mwyaf peryglus", gan gynnwys y rhai sydd gyda dedfrydau am oes neu ddedfrydau estynedig penodol, yn cael eu rhyddhau yn fuan. 

Ar y cyfrwng X, fe wnaeth Ffederasiwn yr Heddlu ar gyfer Lloegr a Chymru ymateb i stori'r Telegraph gan ddweud bod y polisi yn un "ffiaidd".

Dywedodd y dirprwy gadeirydd cenedlaethol, Brian Booth: "Fe safodd swyddogion heddlu o bob rhan o'r wlad ochr yn ochr i anrhydeddu Andrew Harper yn ei angladd.

"Byddan nhw, a phob swyddog heddlu sy'n gwasanaethu, wedi eu ffieiddio gyda'r posibilrwydd y bydd Bowers a Cole yn ôl ar y strydoedd mor fuan."

Cyfraith Harper

Roedd PC Harper i fod i fynd ar ei fis mêl ar ôl gorffen ei shifft yn ei waith y diwrnod hwnnw ym mis Awst 2019. 

Ar ôl ei farwolaeth, fe wnaeth ei wraig, Lissie Harper, ymgyrchu am ddedfrydau mwy llym ar gyfer dynladdiad gweithwyr brys tra ar ddyletswydd. 

Roedd Cyfraith Harper ymhlith y mesurau newydd yn Neddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd.

Mae’r newid yn ymestyn dedfrydau oes gorfodol i unrhyw un sy’n cyflawni dynladdiad gweithiwr y gwasanaethau brys tra ei fod ar ddyletswydd, gan gynnwys swyddogion heddlu, swyddogion carchar, diffoddwyr tân a pharafeddygon.

Ond dyw'r gyfraith ddim yn ôl-weithredol, sy’n golygu nad oes modd ymestyn dedfrydau lladdwyr PC Harper.

Mae Gweinidog Cyfiawnder newydd y Cabinet, Alex Norris wedi cael ei annog i ail-ystyried y cynllun i ryddhau carcharorion yn gynnar. 

Prif lun: Heddlu Dyffryn Tafwys 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.