Rhybudd i bobl beidio â mynd i mewn i westy Parc y Strade yn Llanelli
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio pobl i beidio â mynd i mewn i adeilad hen westy yn Llanelli, yn dilyn cynnydd mewn adroddiadau am dresmasu ar y safle.
Dywedodd yr heddlu ddydd Mercher eu bod wedi derbyn nifer o alwadau yn adrodd am bobl yn mynd i mewn adeilad Gwesty Parc y Strade dros benwythnos Gŵyl y Banc i greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Mae ymholiadau bellach yn cael eu cynnal i ddifrod troseddol a lladrad posib.
"Mae swyddogion mewn cysylltiad â'r rhai dan sylw," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
"Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud gyda phartneriaid a'r perchnogion i ddatrys y mater hwn, ac mae ymgysylltu cymunedol yn parhau i dawelu meddyliau pobl sy'n byw yn yr ardal."
Roedd defnydd y gwesty yn destun dadlau sylweddol yn 2023 oherwydd cynlluniau i osod cannoedd o geiswyr lloches yno.
Ond daeth cynlluniau'r Swyddfa Gartref i roi lloches i 241 o bobl yno i ben yn dilyn misoedd o brotestiadau a gwrthwynebiad gan Gyngor Sir Gâr.
Cafodd nifer o bobl eu harestio yn sgil y protestiadau, gyda'r gwaith plismona yn costio mwy na £1 miliwn i Heddlu Dyfed-Powys.
Daeth cadarnhad ym mis Mai 2024 y byddai'r gwesty yn ail-agor, ond cyhoeddodd y gwesty ym mis Mawrth eleni ei bod yn cau.