Reform UK yn penodi Laura Anne Jones yn ddirprwy arweinydd yng Nghymru
Mae Reform UK wedi cyhoeddi mai Laura Anne Jones AS fydd dirprwy arweinydd y blaid yng Nghymru yn dilyn penodiad Helen Jenner yn arweinydd ddydd Llun.
Fe gafodd yr aelod dros etholaeth Sir Fynwy Torfaen ei hethol gan ei chyd-aelodau.
Mae hi’n olynu Ms Jenner, a gafodd ei hethol yn arweinydd ar ôl i Dan Thomas ymddiswyddo yr wythnos diwethaf ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac o reoli drwy orfodaeth.
Mae Mr Thomas yn gwadu hynny.
Wrth ymateb i'w phenodiad, dywedodd Laura Anne Jones AS: “Rwy’n falch iawn o gael cefnogaeth fy nghyd-aelodau i fod yn Ddirprwy Arweinydd Reform yng Nghymru.
“Rydym wedi cael dechrau gwych yma yn y Senedd, gan roi llais i’r rhai sydd heb lais a sefyll dros gymunedau Cymru sydd wedi cael eu gadael ar ôl.
“Mae gennym arweinydd cryf ac effeithiol yn Helen, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i’w chefnogi hi a’n grŵp cyfan wrth symud ymlaen.”
Ms Jones oedd aelod cyntaf Reform UK yn Senedd Cymru, ar ôl gadael y Ceidwadwyr er mwyn ymuno â phlaid Nigel Farage fis Gorffennaf y llynedd.
Wedi’r cyhoeddiad ei bod yn symud i Reform, dywedodd Ms Jones ar y pryd iddi fod yn aelod o'r Blaid Geidwadol ers 31 mlynedd ond ei bod hi "prin yn adnabod y blaid erbyn hyn".
Cafodd Ms Jones, a gafodd ei magu yn Sir Fynwy, ei hethol i’r Senedd am y tro cyntaf am un tymor rhwng 2003 a 2007.
Roedd yn gynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy rhwng 2017 a 2022, tra ei bod wedi’i hail-ethol i’r Senedd yn 2020.
Ym mis Tachwedd 2025, cafodd ei gwahardd o’r Senedd am 14 diwrnod ar ôl defnyddio term a gafodd ei ddyfarnu’n un hiliol. Fe wnaeth Ms Jones ymddiheuro am ddefnyddio’r term, gan fynnu nad oedd yn hiliol.