Pontypridd: Arestio tri yn eu harddegau wedi ymosodiad honedig ger archfarchnad
Cyhoeddodd Heddlu De Cymru fod tri bachgen yn eu harddegau wedi eu harestio mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig ger archfarchnad Sainsbury's ym Mhontypridd.
Caofodd plismyn eu galw yno ddydd Llun, 23 Chwefror.
Mae dau fachgen 14 oed o Bontypridd ac un bachgen 13 oed o Gwmtwrch, Cwm Tawe wedi eu harestio ar amheuaeth o geisio achosi niwed corfforol difrifol.
Mae'r tri wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.