Plaid asgell dde yr AfD yn debygol o ennill mewn etholiad taleithiol yn yr Almaen
Yn yr Almaen, mae plaid asgell dde yr AfD yn debygol o sichrau buddugoliaeth fawr yn nhalaith ddwyreiniol Saxony-Anhalt, yn ôl yr arolwg barn wedi'r etholiad yno.
Mae'r arolwg yn awgrymu fod y blaid ymhell o flaen y prif bleidiau eraill, ond rhyw ddwy i dair sedd yn brin o fwyafrif.
Mae'n aneglur a yw'r fuddugoliaeth yn ddigon swmpus i gymryd yr awenau yn y dalaith, ond yn ôl yr AfD, mae nhw wedi ennill mandad i lywodraethu.
Y darogan ydy y bydd y blaid asgell dde yn ennill 44-44.5% o'r bleidlais, gyda phlaid y canghellor Friedrich Merz, y CDU ar 18.5%.
Yn ôl yr AfD, mae'r canlyniad yn "hanesyddol" ac mae eu harweinydd yn y dalaith Ulrich Siegmund, wedi gwrthod rheoli gydag unrhyw blaid arall.
Does yr un blaid asgell dde eithafol wedi ennill a rheoli mewn talaith yn yr Almaen ers yr Ail Ryfel Byd.
Mae gan daleithiau yn yr Almaen bwerau dros heddlua, diwylliant ac addysg leol.
2.1 miliwn yw poblogaeth Saxony-Anhalt.
Mae'r arolwg hwn yn awgrymu fod buddugoliaeth yr AfD's yn well nag yr oedd arolygon barn blaenorol yn ei ddarogan.