Ymchwiliad heddlu wedi digwyddiad rhwng chwaraewr Caerdydd a chefnogwr Portsmouth

Llun: Asiantaeth Huw Evans
Cefnogwyr Portsmouth a Krystian Bielik

Mae Heddlu Hampshire yn cynnal ymchwiliad i ddigwyddiad rhwng amddiffynnwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Krystian Bielik a chefnogwr tra roedd yr Adar Gleision yn chwarae oddi cartref yn erbyn Portsmouth ddydd Sadwrn. 

Yn ystod ail hanner y gêm yn Fratton Park, cafodd Krystian Bielik, ffrae gydag un o'r cefnogwyr wrth iddo geisio casglu'r bêl.

Honnodd rheolwr yr Adar Gleision, Brian Barry-Murphy, ar ôl y gêm, fod Bielik wedi "cael slap yn ei wyneb", tra bod fideos ar-lein yn awgrymu fod Bielik yn ymddangos fel petai'n gafael yng ngorff y cefnogwr ifanc.

Roedd sawl cefnogwr Portsmouth yn gwneud ystumiau oedd yn awgrymu eu bod nhw'n credu bod Bielik wedi gafael yng ngwddf y cefnogwr.

Wedi'r digwyddiad, taflodd cefnogwr arall y bêl at ben amddiffynnwr Caerdydd, Perry Ng.

Fe gafodd y ddau gefnogwr eu hanfon o'r stadiwm.

Bellach mae'r heddlu'n cynnal ymchwiliad, ac mewn datganiad brynhawn Sul, dywedodd Clwb Pêl-droed Portsmouth, na fyddai'n briodol iddyn nhw wneud sylw pellach ar hyn o bryd gan fod y clwb a'r heddlu yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd yr heddlu: "Gallwn gadarnhau ein bod yn ymchwilio i ddigwyddiad, wedi adroddiadau fod bachgen yn ei arddegau wedi dioddef ymosodiad yn ystod y gêm bêl-droed yn Fratton Park. Mae ein hymchwiliad yn parhau." 

Image
Y Dyfarnwr, Ben Speedie yn siarad gyda rheolwr Caerdydd a Portsmouth, Brian Barry-Murphy a John Mousinho, a capteiniaid Caerdydd a Portsmouth, Perry Ng a Marlon Pack. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Y Dyfarnwr, Ben Speedie yn siarad gyda rheolwr Caerdydd a Portsmouth, Brian Barry-Murphy a John Mousinho, a capteiniaid Caerdydd a Portsmouth, Perry Ng a Marlon Pack. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Enillodd Portsmouth y gêm 2-0, a dywedodd eu rheolwr, John Mousinho ar ôl y gêm ei fod yn ymddiheuro i chwaraewyr Caerdydd am y digwyddiad gyda chefnogwyr.

"Dywedodd y dyfarnwr fod digwyddiad pan aeth Krystian i 'nôl y bêl, a'i fod wedi cael ei daro gan un o'r cefnogwyr," meddai John Mousinho.

"Doedd e ddim yn ddigwyddiad da. Roeddwn i wedi ei weld ar ôl hynny ac mae'n iawn, ond nid dyna'r pwynt, nid yw hynny'n dderbyniol.

"Rydym ni eisiau creu awyrgylch anodd i wrthwynebwyr yma, ac rydym wedi llwyddo i wneud hynny dros y blynyddoedd.

"Weithiau mae'n mynd rhy bell, dwi'n deall hynny, ond dwi ddim yn meddwl bod angen iddo fynd i'r fath raddau.

"Rydym yn ymestyn ein hymddiheuriadau i'r chwaraewyr ac i Gaerdydd ac yn sicrhau ein bod ni'n ceisio atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd eto."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn dweud eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad ac yn adolygu'r manylion yn adroddiad y dyfarnwr o'r gêm cyn gwneud penderfyniad ar gamau disgyblu.

'Annerbyniol'

Dywedodd rheolwr Caerdydd, Brian Barry-Murphy, fod y digwyddiad yn "annerbyniol", gan ganmol y dyfarnwr a'r dyfarnwyr cynorthwyol am eu hymateb.

"Roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr bod Krystian wedi ei ddiogelu a'i fod yn iawn," meddai.

"Dwi'n credu bod y dyfarnwr a'i staff wedi delio â'r digwyddiad yn ddi-fai.

"Dwi'n credu bod y chwaraewyr yn gorfod delio â gwahanol bethau - mae'n annerbyniol yr hyn sy'n digwydd.

"Nid ydyn nhw'n disgwyl y fath yna o driniaeth. Fy swydd i yw amddiffyn y chwaraewyr, ond y gwir yw - fy ffocws yw ceisio sicrhau ein bod ni'n chwarae'n dda ac yn ennill."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.