Môn: Heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i gi ymosod ar ddefaid

Ymosodiad defaid Ynys Mon

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i gi ymosod ar ddefaid ar Ynys Môn.

Dywedodd tîm troseddau cefn gwlad yr heddlu fod yr ymosodiad wedi digwydd ym Modorgan ger Llangristiolus rhwng 17:30 a 18:00 ar 21 Awst.

Fe gafodd tair dafad eu hanafu yn yr ymosodiad, gyda phob un ag anafiadau i'w coesau ôl.

Mae pedwaredd dafad yn parhau ar goll.

Dywedodd Rhys Evans o’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad fod y llu yn chwilio am unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr ymosodiad.

“Gofynnwn i unrhyw un a oedd yn cerdded eu ci drwy’r caeau ar y pryd i gysylltu â ni.

“Unwaith eto rydym yn ymbil ar berchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar dennyn pan fydd anifeiliaid fferm o gwmpas er mwyn osgoi tarfu arnynt a’u niweidio. Os ydy eich ci wedi dianc mewn ardal wledig dylech roi gwybod i’r heddlu cyn gynted â phosib fel y gall ffermwyr a thirfeddianwyr gael gwybod.”

Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101 neu drwy eu gwefan, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000686983.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.