Parc antur poblogaidd yng Ngwynedd ar werth am £1.2m
Mae parc antur poblogaidd yng Ngwynedd ar werth am £1.2m.
Mae gwefan Gelli Gyffwrdd yn disgrifio'r safle rhwng Bethel a'r Felinheli fel un sydd gyda "dros 20 o reidiau, mannau chwarae, ac anturiaethau awyr agored i'r teulu cyfan."
Cafodd y parc, sydd yn cael ei adnabod yn Saesneg fel parc Green Wood, ei sefydlu yn 1991 cyn cael ei werthu i gwmni Continuum Attractions yn 2017.
Dywed manylion hysbyseb y cwmni sydd yn ei farchnata fod y parc yn atyniad mawr yn yr ardal:
"Gyda dros 15 o atyniadau thema a llu o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar ddarganfod, antur, chwarae, dysgu a natur gan gynnwys rholercoster disgyrchiant, reid sblash solar, nifer o ardaloedd chwarae antur, theatr goedwig a llwyfan gwylio Eryri."
Mae'n cynnwys "cyfleusterau canolog sylweddol gan gynnwys chwarae dan do a chaffi, gyda mwy o siopau arlwyo ledled y parc."
Mae'r safle wedi ei wasgaru dros 34 o aceri ac mae'r datblygiad wedi gweld £1.5m o fuddsoddiad dros y blynyddoedd diwethaf meddai'r cwmni sydd yn ei hysbysebu, sef Newmark.
Llun: Gelli Gyffwrdd/Newark

