Osian Pryce yn anelu am deitl Prydain wrth i Rali Ceredigion ddychwelyd
Gall Osian Pryce sicrhau ail deitl Pencampwriaeth Rali Prydain ar dir cyfarwydd wrth i’r cystadlu ddechrau yn Rali Ceredigion ddydd Gwener.
Mae gan y gyrrwr o Fachynlleth fantais o 10 pwynt dros Max McRae ar frig y bencampwriaeth cyn penwythnos allai benderfynu pwy fydd yn ennill y teitl.
Bydd y nifer fwyaf erioed o geir yn cystadlu yn y rali eleni, gyda 149 o geir a chystadleuwyr o 18 o wledydd yn teithio i Geredigion.
Bydd 16 o gymalau dros 191 cilometr o ffyrdd caeedig rhwng dydd Gwener a dydd Sul.
Mae’r digwyddiad yn rhan o Bencampwriaeth Rali Ewrop a Phencampwriaeth Rali Prydain.
Am y tro cyntaf eleni, bydd hefyd yn rhan o Bencampwriaeth Rali Hanesyddol Ewrop, ar gyfer ceir a gafodd eu cynhyrchu cyn 1992.
Brwydr am deitl Prydain
Mae Rali Ceredigion yn cyfrif fel dwy rownd o Bencampwriaeth Rali Prydain eleni yn dilyn canslo rali Carlisle Stages yn gynharach yn y tymor.
Caiff y set gyntaf o bwyntiau ei dyfarnu ar ddiwedd cymalau dydd Sadwrn. Yna bydd yr amseroedd yn dechrau o’r newydd at ddibenion pwyntiau’r bencampwriaeth yn unig ar gyfer pedwar cymal dydd Sul.
Bydd Pryce yn sicrhau’r teitl yng Ngheredigion os bydd yn ennill y ddwy rownd ac os bydd McRae yn gorffen yn bedwerydd neu’n is yn y ddwy.
Mae Meirion Evans, sy’n drydydd yn y bencampwriaeth, hefyd yn dal yn y ras am y teitl.
Mae Pryce wedi ennill Rali Ceredigion ddwywaith ac mae’n ceisio sicrhau ei drydedd fuddugoliaeth.
Yn rhan o'r rhagflas swyddogol i'r rali, dywedodd Osian Pryce: “Mae’n wych cael rali gartref sy’n rhan o bencampwriaethau Prydain ac Ewrop, ac mae llwybr eleni unwaith eto’n edrych yn heriol.
"Mae rhai cymalau newydd ac mae’r cymalau yn y tywyllwch yn edrych yn gyffrous. Mae hynny’n rhywbeth yr hoffwn i ni gael mwy ohono," meddai.
"Unwaith eto, mae rhestr gystadlu gref ac mae safon y gystadleuaeth yn mynd i fod hyd yn oed yn uwch eleni.”
Yn ôl y trefnwyr, bydd arweinydd Pencampwriaeth Rali Ewrop, Teemu Suninen o’r Ffindir, a Kris Meeke o Ogledd Iwerddon, sydd wedi ennill pum rali ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd, hefyd yn cystadlu.
Mewn cyfweliad ar raglen Prynhawn Da ar S4C, dywedodd Olwen Davies, sy’n rheolwr ar un o’r cymalau, y byddai Aberystwyth “dan ei sang o bobl” dros y penwythnos.
“Bydd pethau’n dechrau a gorffen ar y prom,” meddai.
“Mae yna ardal i bobl fynd i weld pethau ynglŷn â ralio, ac mae yna gymal ar y prom. Does dim rhaid i chi fynd allan i’r wlad. Chi’n gallu gweld y cyfan yn Aberystwyth.”
Dywedodd fod y digwyddiad hefyd yn gyfle i godi proffil yr ardal.
“Mae’n ffordd dda o hyrwyddo Cymru a Cheredigion,” meddai.
“Mae pobl dros y byd yn gwybod enwau’r llefydd a’r cymalau.”
Yn ôl y trefnwyr, cafodd y rali effaith economaidd o £11.65 miliwn ar yr ardal yn 2025, a chafodd ei darlledu i gynulleidfa o fwy na 100 miliwn o bobl mewn 120 o wledydd.
Wrth sôn am y rhaglen a gynhaliwyd mewn ysgolion cyn y rali, dywedodd Olwen: “Mae’n neis gweld plant yn cael diddordeb.
“Os nad ydyn nhw’n moyn gyrru’r car, mae tîm o bobl ynghlwm â phob car. Mae eisiau rhywun i edrych ar ôl y car.”
Y llwybr
Dechreuodd y gweithgareddau gyda sioe rali a’r cychwyn seremonïol ar bromenâd Aberystwyth ddydd Iau.
Bydd y cystadlu’n dechrau ddydd Gwener gyda chymalau yn Aberystwyth, Elerch a Blaenmelindwr. Bydd dau o’r cymalau’n cael eu cynnal yn y tywyllwch.
Ddydd Sadwrn, bydd y gyrwyr yn cystadlu ar gymalau Aberffrwd, Soar y Mynydd a Chwm Elan, cyn dychwelyd i Aberystwyth.
Bydd y pedwar cymal olaf yn cael eu cynnal o amgylch Gorsgoch a Thŷ Glyn ddydd Sul, cyn i’r ceir ddychwelyd i’r promenâd ar gyfer y diweddglo seremonïol.
