Môn: Mân anafiadau i ddau beilot RAF Y Fali wedi i'w awyren blymio i'r ddaear
Môn: Mân anafiadau i ddau beilot RAF Y Fali wedi i'w awyren blymio i'r ddaear
Mae dau beilot yn cael eu trin am fân anafiadau wedi i'w hawyren blymio i'r ddaear ger safle RAF Y Fali ym Môn ddydd Mercher.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod swyddogion yn bresennol wedi adroddiadau o ddigwyddiad yn ymwneud ag awyren yn ardal Pencarnisiog o'r ynys.
Mae dau beilot yn cael eu trin am fân anafiadau ar ôl gorfod gadael yr awyren drwy ddefnyddio parasiwtiau, cyn iddi ddisgyn i'r ddaear ger tai cyfagos.
Ychwanegodd y llu bod y Gwasanaeth Tân ac Achub a'r Ambiwlans Awyr yn bresennol.
Nid oes adroddiadau o unrhyw ddifrod neu anafiadau eraill ar hyn o bryd yn ôl yr heddlu.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2102764864099799427
Fe wnaeth yr Awyrlu Brenhinol gadarnhau mewn datganiad fod awyren RAF T2 Hawk a oedd yn hedfan o RAF Y Fali yn rhan o'r digwyddiad.
"Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw pellach ar yr adeg yma," meddai'r datganiad.
Yn ôl adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth un o awyrennau'r Awyrlu Brenhinol blymio i'r ddaear ar ôl dechrau ei thaith o RAF Fali.
Mae lluniau a fideos yn dangos dau aelod cael eu taflu o'r awyren ychydig ar ôl codi i'r awyr, gyda mwg du yn codi o ardal y digwyddiad.