Mererid Hopwood yn ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn 2026
Mererid Hopwood sydd wedi ennill Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026 am ei chyfrol o farddoniaeth, Mae.
Cyhoeddwyd y newyddion mewn seremoni wobrwyo yn Galeri Caernarfon nos Iau.
Cyhoeddwyd hefyd mai A Room Above a Shop (Granta Publications), nofel gyntaf Anthony Shapland, yw enillydd y Brif Wobr Saesneg.
Mae’r ddau yn derbyn gwobr o £4,000 yr un ynghyd â thlws wedi’i greu gan Angharad Pearce Jones.
Mererid Hopwood oedd y fenyw gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, 2001, ac mae hefyd wedi ennill y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Mae hi wedi bod yn Archdderwydd Gorsedd y Beirdd ers 2024 ac mae hi hefyd yn Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Ifor ap Glyn, ar ran y panel beirniadu, ei bod wedi bod yn “werth aros am y gyfrol swmpus hon”, 10 mlynedd ers y gyfrol flaenorol o farddoniaeth Mererid.
“Mae’r ferf syml sy’n rhoi teitl i’w chasgliad hi - ‘mae’ – ar yr un pryd yn ddatganiad athronyddol ynghylch breuder bywyd, ond hefyd yn nodweddiadol o ddiddordeb mawr Mererid mewn iaith – sut mae’n gweithio, a sut y byddwn yn ei rhannu,” meddai.
“Cawn gyffyrddiadau mewn ieithoedd eraill, ac mae Dyfedeg ei theulu yn cyfoethogi’r casgliad yma a thraw.
“Bardd rhyngwladol ei gorwelion yw Mererid ac mae sawl cerdd yma sy’n datgelu ei hymrwymiad i’r ymgyrch dros heddwch.
“Mae ‘na dynerwch yn ei chanu; ond mae ‘na daerineb hefyd; ac yn fwy na dim mae ‘na obaith."
Dywedodd Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr, ac yn arbennig i Mererid ac Anthony.
“Un yn lais adnabyddus, hoff yn ein traddodiad barddol Cymreig, a’r llall yn nofelydd newydd a disglair.
“Mae eu llyfrau yn gwbl wahanol i’w gilydd, ond y ddau wedi cyffwrdd darllenwyr wrth rannu calon ac enaid. Dwy gyfrol gwbl Gymreig gydag apêl eang.”
Enillwyr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026
Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026 (Noddir gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd)
Mae, Mererid Hopwood (Cyhoeddiadau Barddas)
Gwobr Barn y Bobl Golwg360
Trochi - Cerddi Carwyn Eckley, Carwyn Eckley (Gwasg Carreg Gwalch)
Y Wobr Farddoniaeth (Cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd)
Mae, Mererid Hopwood (Cyhoeddiadau Barddas)
Gwobr Ffeithiol Greadigol (Noddir gan Stori Cymru)
Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni – Ar Lwybrau ‘Atgof’ Prosser Rhys, Iestyn Tyne (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Ffuglen (Noddir gan Gyfrifwyr HSJ)
Tri, Sonia Edwards (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc (Cefnogir gan Gronfa Elw Park-Jones)
Y Cae Ras, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
