Mae prisiau petrol ar eu lefelau uchaf ers mis Tachwedd 2022 wrth i filiynau o yrwyr deithio dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Roedd pris cyfartalog litr o betrol yn 161.6c ddydd Gwener, yn ôl yr AA, gyda disel yn costio 183.4c ar gyfartaledd.
Mae ffigurau wythnosol swyddogol Llywodraeth y DU yn dangos bod pris petrol wedi cyrraedd 162.15c y litr ar 10 Awst, y ffigur wythnosol uchaf ers mis Tachwedd 2022.
Roedd y cyfartaledd diweddaraf, ar 24 Awst, yn 161.63c y litr.
Mae llenwi car teuluol nodweddiadol â phetrol bellach yn costio tua £89, o’i gymharu â £74 flwyddyn yn ôl, yn ôl y RAC.
Mae tanc o ddisel yn costio tua £100, sef £21 yn fwy nag ym mis Awst y llynedd.
Mae’r cynnydd diweddar mewn prisiau yn dilyn cynydd ym mhris olew oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Penwythnos prysur
Mae’r RAC yn amcangyfrif y bydd tua 20 miliwn o deithiau hamdden yn cael eu gwneud mewn ceir rhwng dydd Gwener a dydd Llun.
Fe allai hwn fod y penwythnos Gŵyl y Banc prysuraf ar ffyrdd y DU ers i’r RAC ddechrau casglu’r ffigurau yn 2015.
Mae tua 3.8 miliwn o deithiau wedi’u cynllunio ar gyfer dydd Sadwrn, 3.1 miliwn ddydd Sul a 3.4 miliwn ddydd Llun.
Dywedodd 32% o’r gyrwyr mewn arolwg gan y RAC fod prisiau tanwydd wedi effeithio ar eu cynlluniau, gyda 13% wedi penderfynu peidio â theithio oherwydd y gost.
Prisiau yng Nghymru
Wrth i Newyddion S4C wirio’r data fore Sadwrn, roedd petrol mewn archfarchnadoedd yn costio 159.1c y litr ar gyfartaledd ledled y DU, yn ôl Fuel Finder UK.
Roedd hynny 4.9 yn rhatach na’r cyfartaledd o 164.0c yng ngorsafoedd BP, Shell ac Esso.
Roedd disel mewn archfarchnadoedd yn costio 180.2c ar gyfartaledd, o’i gymharu â 185.8c yng ngorsafoedd y tri brand.
Ymhlith y prisiau petrol isaf oedd yn cael eu dangos yng Nghymru fore Sadwrn roedd 152.9c y litr yn y de a 155.9c yn y gogledd.
Gall y prisiau newid yn ystod y penwythnos.
Ers mis Chwefror, mae gwerthwyr tanwydd wedi gorfod rhoi gwybod i wasanaeth Fuel Finder Llywodraeth y DU am unrhyw newid mewn pris o fewn hanner awr.
Prisiau wrth y pwmp ar ‘eu gwaethaf’
Dywedodd Luke Bosdet, llefarydd yr AA ar brisiau tanwydd: “Mewn sawl ffordd, mae prisiau wrth y pwmp yn y DU yn ôl ar eu gwaethaf.
“Yn rhy aml maen nhw’n rhy ddrud ac yn anghystadleuol, gyda gormod o gymunedau heb danwydd am bris rhesymol.”
Dywedodd y gall un orsaf sydd â phris cystadleuol dynnu prisiau i lawr yn lleol, gan gynnwys mewn archfarchnadoedd cyfagos.
“Dim ond dod o hyd iddyn nhw a mynd yno sydd angen i yrwyr ei wneud,” meddai.