O leiaf pedwar o bobl wedi eu lladd mewn gwrthdrawiad trên yn yr Aifft

Tren yr Aifft

Mae o leiaf pedwar o bobl wedi marw a nifer wedi cael eu hanafu mewn gwrthdrawiad trên ger ardal Giza yn yr Aifft.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn ne Cairo ddydd Sul ac mae adroddiadau bod nifer o gerbydau wedi mynd oddi ar y cledrau.

Dywedodd Adran Iechyd Llywodraeth yr Aifft bod 72 o ambiwlansys wedi cael eu hanfon i safle’r gwrthdrawiad, a bod o leiaf 88 o bobl wedi cael eu hanafu.

Dywedodd Prif Weinidog yr Aifft, Abdelfattah Elsisi: “Rwy’n dilyn y sefyllfa ar ôl y gwrthdrawiad rhwng y trenau gyda phryder mawr. 

"Rwy’n cydymdeimlo’n ddwys â theuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau, ac yn dymuno gwellhad buan i’r rhai gafodd eu hanafu. 

"Rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i asiantaethau’r wladwriaeth ddarparu’r gofal meddygol angenrheidiol, ymchwilio’n brydlon i amgylchiadau’r ddamwain, a dwyn unrhyw un y maen nhw'n canfod sydd wedi bod yn esgeulus i gyfrif.”

Rhagor i ddilyn...

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.