Hofrennydd y Llynges mewn damwain yn Nyfnaint

Ffordd ger Sourton Down

Mae un o hofrenyddion y Llynges Frenhinol wedi bod mewn damwain mewn cae yn sir Dyfnaint yn Lloegr.

Mae'r gwasanaethau brys ar safle'r digwyddiad yn Sourton Down yng ngorllewin y sir, meddai llefarydd ar ran yr heddlu lleol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llynges Frenhinol fod y ddamwain wedi digwydd ychydig cyn 04.00 fore Mercher.

Ni wnaeth y llefarydd roi unrhyw fanylion pellach, gan ychwanegu: "Mae ymchwiliad ar y gweill a byddai'n amhriodol gwneud sylwadau pellach ar hyn o bryd."

Mae nifer o ffyrdd ar gau o amgylch ardal Sourton Cross ar yr A386 a'r A30 ar hyn o bryd.

Mae'r ardal rhwng canolfannau awyr y Llynges Frenhinol yn Yeovilton yng Ngwlad yr Haf a Culdrose yng Nghernyw.

Mae lleoliad y ddamwain yn agos at wersyll Okehampton, cyfleuster milwrol ar gyrion Dartmoor sy'n cael ei ddefnyddio i hyfforddi criwiau hofrennydd.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Syr Keir Starmer ei fod yn "ymwybodol o ddamwain hofrennydd y Llynges Frenhinol y bore yma yn Nyfnaint".

"Bydd hwn yn gyfnod pryderus iawn i’r teuluoedd a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosib," meddai.

 
 
 
 
 
 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.