Dedfrydu gweithiwr meithrinfa yn Sir Conwy am yrru i'r gwaith yn feddw
Mae gweithiwr meithrinfa yn Abergele, Sir Conwy, wedi cael ei dedfrydu ar ôl gyrru i'r gwaith pan oedd wedi meddwi.
Fe wnaeth Ilona Robinson, 35 oed, yrru i mewn i ddwy ffens wahanol ar ei ffordd i'r gwaith.
Clywodd y llys yn Llandudno fod ei phrawf alcohol wrth ochr y ffordd wedi mesur 165, o’i gymharu â’r terfyn cyfreithlon o 35 meicrogram o alcohol ymhob 100 mililitr o anadl.
Dywedodd Siriol Jones ar ran yr erlyniad nad oedd Robinson yn gallu sefyll yn syth ar ôl camu allan o'i char yn y feithrinfa ar 30 Mawrth.
Gwrthododd roi allweddi’r car i reolwr y feithrinfa ac roedd "arogl amlwg o alcohol" arni.
Ychwanegodd nad oedd Robinson yn ymwybodol ei bod wedi gyrru i mewn i ffens.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r feithrinfa wedi i Robinson yrru i mewn i ail ffens ac achosi difrod i ddau banel.
Dywedodd Andrew Hutchinson ar ran y diffynnydd fod Robinson wedi bod yn yfed ers oriau mân y bore.
Fe wnaeth y barnwr osod gorchymyn cymunedol 18 mis ar y diffynnydd, gyda gweithgareddau adfer i roi cymorth gyda'i "phroblem" yfed.
Bydd angen iddi hefyd gwblhau 220 awr o waith di-dâl ac mae wedi ei gwahardd rhag gyrru am dair blynedd.
Fe fydd angen iddi dalu costau o £199 yn ogystal.
