Gwefannau ledled y byd yn wynebu trafferthion ar ôl i AI ganfod gwendid diogelwch ‘difrifol’
Mae gwefannau ledled y byd yn wynebu trafferthion ar ôl i ymchwilydd oedd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) ganfod “problem ddiogelwch ddifrifol” mewn iaith raglennu.
Mae penaethiaid seiberddiogelwch wedi rhybuddio sefydliadau yn y DU y gallai fod angen iddyn nhw dynnu eu gwefannau oddi ar-lein o ganlyniad.
Mae gwefan Newyddion S4C ymhlith yr rheini oedd wedi eu heffeithio ddydd Mercher, tra nad oedd modd agor rhai o dudalennau'r BBC.
Y gred yw y gallai rhai o wasanaethau ar-lein Llywodraeth y DU fod ar gau dros dro wrth i swyddogion gymryd camau i’w cadw’n ddiogel.
Gallai’r gwendid diogelwch alluogi ymosodwyr i reoli o bell unrhyw weinyddion gwe sy’n defnyddio PHP, iaith raglennu sydd mewn defnydd eang.
Mae bron i 70% o wefannau’n defnyddio PHP, yn ôl y cwmni seiberddiogelwch Cloudflare, ac mae’n sail i lwyfannau poblogaidd fel WordPress, Drupal a Magento.
Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi annog sefydliadau i osod fersiwn newydd o’r feddalwedd sy’n datrys y broblem.
Os nad oes modd uwchraddio’r feddalwedd ar unwaith, dylai sefydliadau ystyried tynnu eu gwefannau oddi ar-lein, meddai’r NCSC.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae gwaith eisoes ar y gweill ar draws y Llywodraeth i ganfod unrhyw systemau a allai fod mewn perygl a gosod diweddariadau diogelwch arnyn nhw.
“Rydyn ni’n annog pob sefydliad, preifat a chyhoeddus, mawr a bach, i ddilyn canllawiau’r NCSC er mwyn deall i ba raddau maen nhw mewn perygl a chymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu eu systemau.”