Gofodwyr yn ‘barod i fynd’ ar y daith gyntaf heibio'r Lleuad ers 50 mlynedd

Y criw

Mae pedwar o ofodwyr yn “barod i fynd” ar gyfer taith gyntaf Nasa heibio’r Lleuad ers dros 50 mlynedd. 

Dywedodd penaethiaid yr asiantaeth ofod y bydd y daith yn mynd â’r criw ymhellach i’r gofod nag unrhyw un erioed o’r blaen.

Bydd pedwar gofodwr - Reid Wiseman, Victor Glover, a Christina Koch o'r Unol Daleithiau, a Jeremy Hansen o Ganada - yn gadael ar roced o Cape Canaveral yn Florida ddydd Mercher, os yw’r tywydd yn caniatáu.

Bydd y gofodwyr yn hedfan o amgylch y Lleuad ac yn ôl ar daith enfawr 10 diwrnod gan deithio 685,000 o filltiroedd.

Bydd llong ofod Orion yn teithio tua 4,700 o filltiroedd y tu hwnt i ochr bell y Lleuad, gan osod record newydd.

Er na fydd y gofodwyr yn glanio ar y Lleuad, y gobaith yw y bydd taith Artemis II yn arwain at lanio ar y Lleuad unwaith eto rywbryd yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Mae’r DU hefyd yn chwarae rhan yn y genhadaeth, gyda Gorsaf Goonhilly, ger Helston yng Nghernyw, yn helpu i dracio’r capsiwl ar ei thaith fawr drwy’r gofod.

Wrth siarad mewn cynhadledd newyddion yng Nghanolfan Ofod Kennedy yn Florida, dywedodd gweinyddwr cyswllt Nasa, Amit Kshatriya: “Mae’r cerbyd yn barod. Mae’r system yn barod. Mae’r criw yn barod.”

Aeth ymlaen i ddweud: “53 mlynedd yn ôl fe adawodd dynoliaeth y Lleuad ac ni ddychwelodd. Nawr rydyn ni’n mynd yn ôl.”

Dywedodd cyfarwyddwr lansio Artemis II, Charlie Blackwell-Thompson, eu bod nhw wedi dechrau cyfrif i lawr ar gyfer y lansiad am 16.44 ddydd Llun.

Ychwanegodd: “Mae’n gyfnod cyffrous. Mae’n gyfnod cyffrous i’r tîm hwn ac i’n criw, ac yn wir i’n cenedl ac i’r byd.

“Mae pob arwydd ar hyn o bryd yn dangos ein bod mewn cyflwr rhagorol, rhagorol wrth i ni ddechrau’r cyfrif.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.