Dŵr Cymru: ‘Cyfyngiadau pellach’ dan ystyriaeth os bydd yr amodau sychder yn parhau

Gwaharddiad

Mae Dŵr Cymru wedi dweud y bydd cyfyngiadau pellach yn cael eu hystyried os bydd y sychder yn parhau i’r hydref.

Daeth gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dyfrio i rym ar draws canolbarth a de Ceredigion, ynghyd â rhannau o ogledd Sir Benfro a gogledd Sir Gaerfyrddin, ym mis Gorffennaf.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud bod disgwyl tywydd mwy ansefydlog yn y tymor byr, ond y gallai tywydd sych ddychwelyd ym mis Medi.

Dywedodd Dŵr Cymru ei fod yn gobeithio codi’r cyfyngiadau “cyn gynted ag y bydd patrymau tywydd mwy arferol yn caniatáu hynny”.

Ond pe bai’r amodau sychder yn parhau, “byddem yn ystyried a fyddai angen cyfyngiadau pellach ar y defnydd o ddŵr er mwyn diogelu cyflenwadau dŵr,” medden nhw.

Mae’r gwaharddiad presennol yn effeithio ar tua 33,000 o eiddo, ar ôl cyfnod estynedig o alw “digynsail” am ddŵr yn sgil y tywydd poeth a sych parhaus, medden nhw.

“Ar ôl haf hir a phoeth, pan oedd y galw yn uwch nag erioed ac ychydig iawn o law wedi disgyn, mae lefelau’r dŵr sy’n cael ei storio mewn rhai ardaloedd yn mynd yn is na’r cyfartaledd ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn,” meddai Dŵr Cymru.

“Rydym yn cadw llygad ar y sefyllfa ac yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gynnal cyflenwadau.

“Rydym hefyd yn gofyn i gwsmeriaid ar draws yr ardal rydym yn gweithredu ynddi ddefnyddio dŵr yn ddoeth.

“Pe bai’r amodau sychder yn parhau i’r hydref, byddem yn ystyried a fyddai angen cyfyngiadau pellach ar y defnydd o ddŵr er mwyn diogelu cyflenwadau dŵr.

“Fodd bynnag, mae’r sefyllfa’n sefydlog ar hyn o bryd, a’n nod yw codi’r cyfyngiadau presennol yng ngorllewin Cymru cyn gynted ag y bydd patrymau tywydd mwy arferol yn caniatáu hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.