Disgwyl gŵyl banc ychwanegol pe bai Lloegr yn ennill Cwpan y Byd
Mae Syr Keir Starmer wedi awgrymu y gallai fod gŵyl banc ychwanegol pe bai Lloegr yn ennill Cwpan y Byd.
Bydd Lloegr yn herio Norwy yn Miami ddydd Sadwrn am le yn y rownd gyn-derfynol, ar ôl curo Mecsico fore dydd Llun.
Fe awgrymodd Rhif 10 wrth newyddiadurwyr y byddai gŵyl banc ychwanegol yn debygol pe bai Lloegr yn ennill.
Mae disgwyl y byddai unrhyw ŵyl banc ar ddydd Gwener 24 Gorffennaf, gyda gorymdaith bws agored yn Llundain ar y diwrnod hwnnw.
Byddai hynny yn rhoi cyfle i dîm Lloegr ddychwelyd o’r ffeinal yn nhalaith New Jersey ar 19 Gorffennaf.
Wrth gael ei holi a fyddai’n cefnogi gŵyl banc petai Lloegr yn llwyddo i ennill y gystadleuaeth, fe awgrymodd Syr Keir wrth ohebwyr yng nghynhadledd Nato ddydd Mercher bod hynny dan ystyriaeth.
“Dydw i ddim eisiau rhoi lwc drwg arnyn nhw, ond gofynnwch i mi eto os ydyn ni’n cyrraedd y rownd derfynol,” meddai.
Nid yw dynion Lloegr wedi ennill y gystadleuaeth ers 1966, a Ffrainc yw’r ffefryn i wneud hynny ar hyn o bryd.
Fe wnaeth menywod Lloegr ennill yr Euros yn 2022 a 2025 ond doedd dim gŵyl banc ychwanegol bryd hynny.
Dywedodd Syr Keir hefyd ei fod wedi gwrthod galwadau i geisio gwrthdroi cerdyn coch Jarell Quansah yn erbyn Mecsico.
Daw hynny ar ôl i Donald Trump awgrymu ei fod wedi perswadio FIFA i atal gwaharddiad y chwaraewr o’r Unol Daleithiau, Folarin Balogun, er mwyn caniatáu iddo chwarae yn erbyn Gwlad Belg a cholli 4-1.
Dywedodd Keir Starmer: “Alla i ddim dweud wrthych chi faint o negeseuon rydw i wedi eu derbyn yn gofyn i mi ddiddymu’r cerdyn coch a gawson ni yn oriau mân dydd Llun.
“Rhaid i mi ychwanegu nad ydw i wedi ceisio gwneud hynny.”
Llun: Lloegr yn curo Mecsico. Kyodo News drwy Reuters Connect.
