Dirwy o £8,000 i ffermwr o Bowys am droseddau lles anifeiliaid
Mae ffermwr o Bowys wedi cael dirwy o £8,000 ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o droseddau lles anifeiliaid.
Fe ymddangosodd Gareth Jones, o Bontrobert, Meifod, yn Llys Ynadon Merthyr Tudful lle'r oedd yn cael ei erlyn gan Gyngor Sir Powys .
Roedd wedi pledio'n euog i saith trosedd o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, ac un drosedd o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2014.
Clywodd y llys fod y troseddau’n ymwneud â methu â cheisio cymorth milfeddygol ar gyfer anifeiliaid sâl a chloff, methu â darparu triniaeth ddigonol, a methu â darparu amgylchedd addas i’r gwartheg ar ei fferm.
Roedd yr amodau lles mor wael fel bod yn rhaid difa dau anifail.
Ymwelodd Swyddogion Iechyd Anifeiliaid ac arolygydd milfeddygol o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion â'r fferm sawl gwaith dros bedair wythnos.
Er eu bod wedi darparu cyngor ac arweiniad i Mr Jones, nid oedd wedi rhoi sylw digonol i'w pryderon am les yr anifeiliaid.
Daeth y swyddogion hefyd o hyd i garcas tarw ar y safle a oedd wedi pydru. Nid oedd wedi'i orchuddio, ac ni chafodd ei waredu mewn modd amserol.
Clywodd y llys fod cyfradd marwolaethau gwartheg ar y fferm yn ystod 2025 tua 20%, a bod nifer o'r gwartheg yn gloff.
'Annerbyniol'
Dywedodd y Barnwr Dosbarth Thomas fod y troseddau'n ddifrifol ac, oni bai fod Mr Jones wedi pledio'n euog, y byddai wedi wynebu dedfryd o garchar.
Er na chafodd ddedfryd o garchar, mae Mr Jones wedi derbyn dirwy o £1,000 ar gyfer pob un o'r wyth cyhuddiad.
Cafodd hefyd orchymyn i dalu gordal llys o £2,000 a £6,443.44 mewn costau cyfreithiol, sef cyfanswm o £16,443.44.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys fod amgylchiadau’r achos yn "gwbl annerbyniol".
"Roedd modd osgoi’r dioddefaint a achoswyd i’r gwartheg hyn, ac roedd y methiannau a nodwyd yn dangos yn glir fod y gyfraith a lles yr anifeiliaid wedi'u hanwybyddu," meddai.
"Mae ein swyddogion yn gweithio'n galed i gefnogi ffermwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau, ond pan fo safonau lles yn cael eu hanwybyddu'n ddifrifol, byddwn yn cymryd y camau gorfodi priodol.
"Mae diogelu lles anifeiliaid yn rhan o’n hymrwymiad i Bowys decach, ac mae’r erlyniad hwn yn anfon neges glir y byddwn yn gweithredu i ddiogelu lles anifeiliaid ac i gynnal y safonau y mae mwyafrif helaeth ein cymuned ffermio yn eu cyrraedd bob dydd."