Dau o glybiau ar waelod y gynghrair yn wynebu ei gilydd yn y Cymru Premier
Mae’n argoeli i fod yn benwythnos arwyddocaol yn y Cymru Premier gyda gemau mawr i’w chwarae bob pen i’r tabl.
Bydd y ddau uchaf yn cyfarfod ar Neuadd y Parc wrth i’r pencampwyr, Y Seintiau Newydd geisio baglu’r Barri a dod a dechrau perffaith y Dreigiau i ben.
Bydd gweddill y timau sy’n y Chwech Uchaf i gyd yn chwarae gartref ac yn gobeithio cau’r bwlch ar y ddau uchaf (Cei Connah, Met Caerdydd, Caernarfon a Llandudno).
Ac ar y pegwn arall, bydd Treffynnon yn herio Trefelin gyda’r ddau glwb yn anelu am eu buddugoliaethau cyntaf y tymor hwn.
Caernarfon (5ed) v Y Fflint (14eg) | Nos Wener – 19:45
Mae Caernarfon yn un o bedwar o dimau sy’n hafal ar 12 pwynt yr un wedi chwe gêm (gyda Met Caerdydd, Llandudno, Pen-y-bont), ond bydd Richard Davies yn ddigon bodlon â hynny o ystyried bod y Cofis eisoes wedi wynebu nifer o’r clybiau mawr, fel Cei Connah, Pen-y-bont, Y Seintiau Newydd a Bae Colwyn.
Mae’r Fflint wedi cael dechrau difrifol i’r tymor gan gipio dim ond un pwynt o’r 18 posib hyd yma, ond mae pob un o’u chwe gêm hyd yma wedi bod yn rhai agos gan nad yw’r Sidanwyr wedi colli o fwy nac un gôl y tymor hwn.
Hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y timau ers rownd derfynol Cwpan Cymru ym mis Ebrill ble enillodd Caernarfon yn gyfforddus o 3-0 yn Rodney Parade gan godi’r tlws am y tro cyntaf yn eu hanes.
Wrth edrych ar y record benben mae’r fantais seicolegol yn sicr gan Gaernarfon gan nad ydyn nhw wedi colli yn eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn y Sidanwyr (ennill 5, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏❌͏✅✅✅❌
Y Fflint: ͏❌❌❌➖❌
Cei Connah (3ydd) v Hwlffordd (12fed) | Nos Wener – 19:45
Gyda pum buddugoliaeth o’r bron mae’r Nomadiaid yn mynd o nerth i nerth ac yn bygwth i i gystadlu tua’r brig.
Mae Callum West wedi serennu i Gei Connah eleni (sgorio 4, creu 5) ac fe sgoriodd y ddwy gôl i guro’r Fflint mewn gêm ddarbi ddydd Llun, yn cynnwys gôl wych o’r cylch canol.
Roedd yna ryddhad mawr i Hwlffordd ar ddydd Llun Gŵyl y Banc wrth i’r Adar Gleision sgorio eu goliau cyntaf y tymor hwn gan sicrhau eu pwyntiau cyntaf mewn buddugoliaeth o 2-1 gartref yn erbyn Trefelin.
Er hynny, does neb wedi sgorio llai na Hwlffordd (2 – 0.33 gôl y gêm) y tymor hwn, tra bod neb wedi sgorio mwy na Chei Connah (17 – 2.83 gôl y gêm).
Ac fe sgoriodd Cei Connah chwe gôl mewn dwy gêm yn erbyn Hwlffordd y tymor diwethaf – yn ennill 1-3 ar Ddôl y Bont ym mis Medi, cyn y gêm gyfartal gyffrous ar Gae y Castell ym mis Hydref (Cei 3-3 Hwl).
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏✅✅✅✅✅
Hwlffordd: ͏❌❌❌❌✅
Llandudno (6ed) v Rhydaman (13eg) | Nos Wener – 19:45
Er waetha’r golled o 2-0 oddi cartref yn erbyn Bae Colwyn yn narbi Sir Conwy, mae Llandudno’n dal eu tir yn y Chwech Uchaf ar ôl ennill pedair o’u chwe gêm ers eu dyrchafiad.
Mae Llandudno ar rediad rhyfeddol o 23 buddugoliaeth yn olynol gartref ym Mharc Maesdu a bydd Jordan Hadaway yn disgwyl i’r record hwnnw barhau nos Wener.
Dyw Rhydaman heb ymdopi cystal â Llandudno ers esgyn dros yr haf gyda tîm Wyn Thomas yn dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf yn yr haen uchaf.
Mae Rhydaman wedi gweld tri cerdyn coch yn eu dwy gêm ddiwethaf, a bydd angen gwell disgyblaeth os am sicrhau canlyniad nos Wener yn yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb yma.
Record cynghrair diweddar:
Llandudno: ͏✅✅❌✅❌
Rhydaman: ͏➖❌❌➖❌
Llansawel (11eg) v Airbus UK (9fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Llansawel wedi llithro i’r Chwech Isaf ar ôl colli tair o’u pedair gêm ddiweddaraf gan dderbyn cerdyn coch yn eu dwy gêm ddiwethaf.
Rhoddodd Airbus grasfa i Treffynnon ddydd Llun i’w gwneud hi’n dair buddugoliaeth mewn chwe gêm i’r newydd ddyfodiaid (Airbus 6-2 Treffynnon).
Mae hwn yn ddechrau o gyfnod allweddol i Lansawel gan eu bod yn wynebu tri o’r timau sydd oddi tanynt yn y tabl yn ystod mis Medi (Hwlffordd, Trefelin a Treffynnon).
Ond mae’n gaddo i fod yn fis heriol i Airbus gan eu bod yn herio tri o glybiau cryfa’r gynghrair (Y Seintiau Newydd, Cei Connah, Pen-y-bont).
Hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau ers mis Tachwedd 2023 pan enillodd Llansawel o 1-2 ar y Maes Awyr yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru gyda Luke Bowen yn taro ddwywaith i’r Cochion wedi gôl agoriadol Jordan Evans.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏➖❌͏✅❌❌
Airbus UK: ͏❌✅❌❌✅
Met Caerdydd (4ydd) v Cambrian (10fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Met Caerdydd yn mwynhau dechrau da i’r tymor ar ôl curo 10-dyn Rhydaman ddydd Llun i’w gwneud hi’n bedair buddugoliaeth mewn chwe gêm (Aman 0-5 Met).
Dyw Cambrian heb gael dechrau ffôl i’r tymor chwaith – yn cipio pwynt gwerthfawr gartref yn erbyn Pen-y-bont ddydd Llun (Cam 2-2 Pen).
Ond fe gafodd Liam Eason ei hel o’r maes yn yr ornest honno’n erbyn Pen-y-bont, ac mi fydd rhaid i Cambrian addasu eu gêm yn absennoldeb eu prif sgoriwr.
Fe wnaeth y timau gyfarfod y tymor diwethaf yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG, a Cambrian oedd yn dathlu bryd hynny ar ôl curo’r myfyrwyr ar giciau o’r smotyn yn dilyn gêm gyfartal 1-1 yn Stadiwm Grŵp M&P.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏✅❌❌✅✅
Cambrian: ͏❌➖✅✅❌➖
Treffynnon (16eg) v Trefelin (15fed) | Nos Wener – 19:45
Bydd un o gemau mwyaf y penwythnos yn cael ei chynnal ar Ffordd Helygain pan fydd y ddau dîm isa’n y tabl yn cyfarfod am y tro cyntaf erioed.
Treffynnon yw’r unig dîm sydd dal yn waglaw ar ôl chwe gêm gan i hogiau John Haseldin golli pob un o’u gemau ers eu dyrchafiad dros yr haf.
Dyw hi’n ddim syndod mae Treffynnon sydd â’r amddiffyn gwannaf yn y gynghrair (ildio 4.3 gôl y gêm), ond mae’r tim o’r gogledd ddwyrain wedi sgorio ym mhob gêm hyd yma, tra bo Trefelin m’ond wedi taro ddwywaith.
Ar ôl ennill pencampwriaeth y de y tymor diwethaf, mae canlyniadau Trefelin wedi bod yn siomedig eleni a bydd Andy Hill yn ysu i hawlio ei fuddugoliaeth gyntaf nos Wener.
Record cynghrair diweddar:
Treffynnon: ͏❌❌❌❌❌
Trefelin: ͏❌❌❌➖❌
