Cyn-ymosodwr Caerdydd Michael Chopra yn arwyddo i dîm yn ail haen Cymru
Mae cyn-ymosodwr Caerdydd, Michael Chopra, wedi arwyddo gyda Trethomas Bluebirds yn ail haen cynghreiriau pêl-droed Cymru.
Cyhoeddodd y clwb fore Mercher fod Chopra, sydd yn 42 oed, wedi arwyddo gyda'r clwb am y tymor i ddod.
Dyw Chopra heb chwarae pêl-droed ers ymddeol yn 2022 ar ôl i'w gyfnod gyda chlwb West Allotment Celtic yn Newcastle ddod i ben.
Chwaraeodd dros 140 o gemau i Gaerdydd yn ystod ei yrfa, gan sgorio 56 o goliau.
Fe chwaraeodd hefyd i glybiau eraill gan gynnwys Newcastle, Sunderland ac Ipswich.
Dywedodd Chopra ei fod yn “ffodus” i gael chwarae i dîm sydd yn cael ei adnabod fel yr Adar Gleision eto, ar ôl ei gyfnod gyda Chaerdydd.
"Roeddwn i wedi meddwl am y peth a cytuno i chwarae, pam lai," meddai wrth y Caerphilly Observer.
"Dwi'n edrych ymlaen i chwarae eto, dyw'r gallu pêl-droed byth yn gadael eich pen, dim ond eich coesau.
"Hoffwn helpu'r chwaraewyr cymaint ag ydw i'n gallu ar y cae. Maen nhw'n garfan ifanc felly dwi'n gobeithio gallu dysgu ambell i beth iddyn nhw.
"Mae'n gyfle gwych i'r clwb ddefnyddio fy enw. Mae'n gyffrous ac yn teimlo fel ffawd fy mod yn aelod o'r Adar Gleision eto."
Ychwanegodd na fydd yn chwarae drwy gydol y tymor, gan ei fod yn byw yn Amsterdam.
"Fydda i ddim yno drwy'r amser, a dwi ddim eisiau i'r rheolwr deimlo bod rhaid i mi chwarae pob un gêm," meddai.
"Gawn ni sgwrs pan fydd y gemau'n cael eu cadarnhau a gweld pa gemau dwi'n gallu chwarae ynddynt."