'Cyfraniad amrhisiadwy': Teyrngedau i’r gwneuthurwr clocsiau Trefor Owen yn dilyn ei farwolaeth
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r gwneuthurwr clocsiau Trefor Owen o Gricieth sydd wedi marw ar ôl cyfnod byr o salwch.
Dywedodd y cerddor a'r cyflwynydd Gwilym Bowen Rhys fod cyfraniad Mr Owen i ddiwylliant Cymru’n “amrhisiadwy” a thrwy gyflenwi clocsiau “wedi helpu i gadw’r traddodiad dawnsio gwerin yn fyw ac iach”.
Bu'n dysgu'r grefft o wneud clocsiau ganddo yn ei weithdy yng Ngwynedd am gyfnod.
Dywedodd Gwilyn Bowen Rhys mewn teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol: “Tristwch mawr oedd dysgu am farwolaeth Trefor Owen, Cricieth y gwneuthurwr clocsiau.
"Treuliais i ddwy flynedd hyfryd ac ysbrydoledig yn ei gwmni yn dysgu ei grefft. Roedd o'n ŵr addfwyn, llawn brwdfrydedd ac angerdd dros Gyrmu, ei hanes a´i diwylliant.
"Wedi ei fagu yn Lerpwl i fam o ynys Manaw a thad o ynys Môn, roedd o'n falch iawn o'i wreiddiau, ac er iddo fyth allu meistroli'r Gymraeg, oedd yn destun rhwystredigaeth a thristwch iddo, fe wnaeth gyfraniad amrhisiadwy i ddiwylliant Cymru trwy gyflenwi'r farchnad clocisau, ac felly wedi helpu i gadw´r traddodiad dawnsio gwerin yn fyw ac iach."
Ychwanegodd: "Bydd ei waddol i'w deimlo am flynyddoedd maith i ddod, gan i'r gwneuthurwr clocisau llawn amser Simon Brock ddysgu ei grefft gyda Trefor, ac yntau'n cyflenwi'r farchnad bellach. Pob cydymdeimlad i'w deulu a´i gydnabod, a choffa da amdano.”
'Safonau eithriadol o uchel'
Dywedodd grŵp Wakefield Morris Dancers: “Roedd Trefor wrth galon ein hochr ni. Fel dawnsiwr, athro, a meistr gwneuthurwr clocsiau, ei ddylanwad, ei ymroddiad, a'i safonau eithriadol o uchel a luniodd pwy ydym ni heddiw. Byddwn yn parhau i anrhydeddu hynny ac yn ymdrechu i fyw hyd at hynny.
“Bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb a'i hadnabu ac a ddawnsiodd gydag ef. Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau yn yr amser anodd hwn.
“Gorffwys mewn hedd Trefor Owen.”
Dywedodd Ffederasiwn Dawnswyr Morris mewn teyrnged iddo: "Yr wythnos hon roeddem yn drist iawn o glywed am farwolaeth Trefor Owen, cyn-Lywydd Ffederasiwn Morris (2004 – 2009).
"Roedd Trefor yn ddawnsiwr brwd o'r Gogledd Orllewin ac yn athro i Wakefield Morris, ond roedd yn fwyaf adnabyddus fel gwneuthurwr clocsiau, gan ddarparu cyflenwad cyson o glocsiau o ansawdd arbennig i lawer o dimau'r DU ar gyfer y Gogledd Orllewin...
"Mae Pwyllgor Ffederasiwn Morris yn anfon ein cydymdeimlad diffuant at ei ffrindiau a'i deulu yn yr amser trist hwn. Bydded i'w gof fyw ym mhrif ddawnsfeydd Wakefield Morris."