Criced: Gêm gyfartal i Forgannwg wrth ddychwelyd i Adran Un

Morgannwg v Swydd Efrog

Cafodd tîm criced dynion Morgannwg gêm gyfartal yn erbyn Swydd Efrog yn eu gêm gyntaf yn ôl yn Adran Un o Bencampwriaeth y Siroedd.

Dyma’r tro cyntaf ers 21 mlynedd i Forgannwg fod yn ôl ym mhrif adran y gystadleuaeth ar ôl iddyn nhw ennill dyrchafiad y llynedd.

Fe benderfynodd capten Morgannwg Kiran Carlson gau'r ail fatiad er mwyn rhoi cyfle i’w dîm anelu am y fuddugoliaeth.

Er i Forgannwg bwyso am y fuddugoliaeth honno fe lwyddodd Swydd Efrog i ddal eu tir a rhwystro ymdrechion bowlwyr Morgannwg 

Dywedodd Carlson wrth BBC Cymru:“Roedd y penderfyniad i gau’r batiad yn ymwneud â nifer o bethau oedd ar ôl yn y dydd a rhoi digon o gyfleoedd i ni eu curo. 

"Roeddwn yn meddwl bod gyda ni ddigon o rediadau a ffydd ynom ein hunain ar lain araf. 

“Pedwar diwrnod eithaf da o griced gyda thipyn o chwysu ac roeddem mewn sefyllfa i ennill ac roedd hynny'n wych.”

Morgannwg: 302 & 218-5

Swydd Efrog: 226 & 239-7

Morgannwg (12 pwynt) Swydd Efrog (10 pwynt)

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.