Codi dros £20,000 i ddod â chorff menyw fu farw yn Awstralia yn ôl i Gymru
Mae dros £20,000 wedi ei godi mewn llai na 24 awr i ddod â chorff menyw o Sir Gaerfyrddin a fu farw yn Awstralia yn ôl i Gymru ar gyfer ei hangladd.
Bu farw Annie Evans-Lewis ddydd Sadwrn ôl teithio i Perth, Awstralia gyda’i chariad Cai i ddechrau bywyd newydd yno, meddai ei theulu.
Fe wnaeth y teulu sefydlu cronfa codi arian ar wefan GoFundMe sydd wedi codi dros £20,000.
“Mae’r boen sy’n cael ei theimlo gan bawb oedd yn ei hadnabod ac yn ei charu mor annwyl yn annisgrifiadwy,” meddai'r teulu.
“Roedd Annie yn ferch, wyres, chwaer, nith, cyfnither, cariad a ffrind annwyl i lawer.
“Bydd hi bob amser yn cael ei chofio fel y person mwyaf egnïol, anhrefnus, doniol, cariadus, caredig a diymhongar.
“Bydd yr arian sy’n cael ei godi drwy’r dudalen hon yn mynd tuag at y broses o’i chael hi adref i Gymru ar gyfer ei hangladd.
“Mae hyn yn cynnwys ffioedd ailwladoli a gofal angladdol yn Awstralia, costau’r angladd gartref, hedfan y teulu i Awstralia ac yn ôl, ac unrhyw anghenion eraill i’r teulu yn ystod y broses.
“Bydd unrhyw gyfraniadau yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn.
“Rydym ni eisiau cael ein merch adref, i ddathlu ei bywyd a’i chymeriad, ac i ddangos iddi’r cariad roedd hi bob amser yn ei ddangos i ni.”
Dywedodd heddlu talaith Gorllewin Awstralia bod merch 21 oed wedi marw wedi gwrthdrawiad am 15.30 ar ddydd Sadwrn, 23 Mai.
Dioddefodd gyrrwr benywaidd anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad mewn Suzuki Grand Vitara a chafodd ei chludo i Ysbyty Brenhinol Perth lle bu farw'n ddiweddarach.
Llun: GoFundMe