Y clwb cyri sy'n diogelu glöyn byw mwyaf prin Cymru

Y Fritheg Frown

Mae tîm o wirfoddolwyr a gweithwyr cadwraeth ym Mro Morgannwg wedi dechrau clwb cyri i ddiogelu glöyn byw mwyaf prin Cymru.

Mae’r grŵp, sy'n cydweithio i ddiogelu'r boblogaeth olaf o’r Fritheg Frown yng Nghymru, yn cyfarfod yn fisol i ddathlu eu llwyddiannau gyda’i gilydd dros gyri.

Dechreuodd y traddodiad pan benderfynodd dau o’r gwirfoddolwyr fynd ag un o’u cydweithwyr i fwyty cyri i ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed yn 2024 - ac ers hynny, mae wedi datblygu’n gyfarfod rheolaidd gyda hyd at 13 o aelodau.

Mae’r gwaith yn rhan o brosiect y Fritheg Frown, un o 11 o brosiectau o dan raglen Natur am Byth sy'n ceisio adfer rhywogaethau.

Mae’r gwaith yn Old Castle Down a’r ardal gyfagos, sy'n cael ei wneud mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Gwarchod Glöynnod Byw, yn cynnwys rheoli’r cynefin bregus fel y gall y Fritheg Frown ffynnu, yn ogystal â chynnal arolygon o’r rhywogaeth ei hun i fonitro ei niferoedd.

Dywedodd Dot Williams, Swyddog Cyflawni Prosiectau ar gyfer Gwarchod Gloÿnnod Byw, ei fod yn "anhygoel" gweld cymaint o wirfoddolwyr.

"Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud i amddiffyn y boblogaeth olaf o’r Fritheg Frown yng Nghymru mor bwysig ac mae’n anhygoel gweld bod cymaint o wirfoddolwyr llawn mor angerddol â ni eisiau ei gweld yn goroesi," meddai.

"Mae ein clwb cyri bob amser yn noson arbennig ac yn gyfle gwych i atgyfnerthu’r cyfeillgarwch o fewn y grŵp fel ein bod ni wir yn teimlo’n rhan o gymuned.

"Mae’r digwyddiadau cymdeithasol hyn yn rhoi rhywbeth ychwanegol i ni edrych ymlaen ato, ac yn gyfle i ddathlu’r holl waith caled sy’n cael ei wneud i sicrhau goroesiad y rhywogaeth brin a hyfryd hon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.