Carrie Sauce yn fuddugol ar gyfres Y Llais eleni
Enillydd cyfres Y Llais 2026 yw Carrie Sauce, artist drag 31 oed sy'n wreiddiol o Wlad yr Haf yn Lloegr ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Yn perfformio cân Cyn i’r Llenni Gau gan Gruffydd Wyn, a ddaeth yn fuddigol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2020, Carrie Sauce yw'r frenhines drag gyntaf erioed i ennill unrhyw un o gyfresi yn seiliedig ar gyfres wreiddiol The Voice, allan o'r 74 fersiwn o'r gyfres ar draws y byd.
Wrth ddisgrifio'r profiad o ennill Y Llais dywedodd y perfformiwr sy'n gyfrifol am greu'r cymeriad Carrie Sauce, Oliver Martin, ei fod "yn teimlo'n anhygoel."
"Roedd gweld fy mam, fy nhad a fy nghariad, ac yn meddwl beth fyddai fy nain a nhaid yn ei ddweud pe bai nhw dal yma yn fy ngwylio fi. Bydden nhw i gyd mor falch.'"
Roedd Carrie Sauce yn rhan o dîm Syr Bryn Terfel yn yr ail gyfres i gael ei darlledu gan S4C.
Dywedodd yr artist yn ystod y rownd gyntaf o'r gystadleuaeth mewn clyweliad cudd: "Dwi’n hoffi meddwl amdani [Carrie Sauce] fel person hen ffasiwn Hollywood ond yna mae’n cymryd ysbrydoliaeth gan bobl fel Marilyn Monroe a Marlene Dietrich, a chantorion anhygoe eraill."
Fe ychwanegodd Oliver, sydd wedi ei hyfforddi mewn cerddoriaeth theatr ac yn ddysgwr Cymraeg, ei fod wedi poeni yn "meddwl y byddwn i wir yn cael trafferth gyda'r Gymraeg, ond rydw i eisiau i bobl wybod faint rydw i'n parchu'r iaith, a fy mod wedi gwneud Cymru yn gartref i mi ac rydw i eisiau rhoi popeth yn ôl iddi."
Fel rhan o'r wobr o fod yn enillydd y gyfres eleni, fe fydd Carrie yn cael cyfle i recordio cân wreiddiol gyda'r cynhyrchydd Amy Wadge, sydd wedi gweithio gydag artistiaid fel Pink, Sam Ryder, ac Ed Sheeran.
Mae modd gwylio Y Llais ar S4C Clic a BBC iPlayer.